Luwc 12:35-40
Luwc 12:35-40 CJW
Bydded eich lwynau gwedi eu hamwregysu, a’ch lluserni yn llosgi; a chwithau eich hunain yn debyg i’r rhai à ddysgwyliant eu meistr yn ol o’r neithior; fel pan ddelo a churo, y gollyngont ef i fewn yn ebrwydd. Gwyn eu byd y gweision hyny, y rhai á gaiff eu meistr pan ddychwelo, yn gwylied. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, efe á ymwregysa, a gwedi eu gosod hwy wrth y bwrdd, á ddaw ac á wasanaetha arnynt hwy. A phynag ai àr yr ail gwylbryd, ai àr y trydydd, y daw, os caiff efe bethau fel hyn, gwỳn eu byd y gweision hyny. Dir gènych, pe gwybuasai gwr y tŷ, pa awr y deuai y lleidr, y gwyliasai efe, a ni adawsai iddo dòri i fewn iddei dŷ. Byddwch chwithau, gàn hyny, bob amser yn barod; canys daw Mab y Dyn àr awr na byddoch yn ei ddysgwyl ef.




