Luwc 1:39-45
Luwc 1:39-45 CJW
A Mair á gychwnodd yn y dyddiau hyny, ac á ymdeithiodd i’r mynydd‐dir àr frys, i ddinas o Iuwda; lle gwedi iddi fyned i fewn i dŷ Zacharias, y cyfarchodd hi well i Elisabeth. Cygynted ag y clywai Elisabeth gyfarcheb Mair, llàmodd y maban yn ei chroth hi; ac Elisabeth á lanwyd o’r Ysbryd Glan, ac á lefodd â llef uchel, Ti wyt y fendigedicaf o wragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. Ond pa fodd y rhyglyddais i yr anrhydedd hwn, fel yr ymwelai mam fy Arglwydd â mi! canys gwybydd, mai cygynted ag y cyrhaeddodd dy gyfarcheb fy nghlustiau, y maban á làmodd o lawenydd yn fy nghroth. A gwỳn ei byd yr hon à gredodd, y cyflawnir y pethau à addawodd yr Arglwydd iddi.





