Luwc 1:26-38
Luwc 1:26-38 CJW
Ac yn y chwechfed mis, yr anfonodd Duw Gabriel, ei angel, i Nasareth, dinas yn Ngalilëa; at forwyn wedi ei dyweddio i ŵr a’i enw Ioseph, o dý Dafydd, ac enw y forwyn oedd Mair. Pan ddaeth yr angel i fewn, efe á ddywedodd wrthi, Hanbych well, y radgaredig! yr Arglwydd fyddo gyda thi, ddedwyddaf o wragedd! Wrth ei ymddangosiad a’i eiriau hi á gythruddwyd, a meddylio á wnaeth ynddi ei hun, beth á allai y cyfarcheb hwn arwyddocâu. A’r angel á ddywedodd wrthi, Nac ofna, Mair, canys ti á gefaist radgarwch gyda Duw. Ac wele, ti á gai feichiogi ac esgor àr fab, a thi á elwi ei enw ef Iesu. Efe á fydd mawr, ac á elwir yn Fab y Goruchaf. A’r Arglwydd Dduw á rydd iddo orsedd ei dad Dafydd. Ac efe á deyrnasa àr dŷ Iacob yn dragywydd; ac àr ei deyrnasiad ni bydd diwedd. Yna y dywedodd Mair wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad oes i mi gyweithas â gwr? Yr angel gàn ateb, á ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glan á ddisgyn arnat, a nerth y Goruchaf á’th gysgoda; am hyny, yr essill santaidd á elwir yn Fab Duw. Ac wele! Elisabeth dy gares, y mae hithau gwedi beichiogi àr fab yn ei henaint; a’r hon à elwid yn anmhlantadwy, sydd yn awr yn ei chwechfed mis; canys nid oes dim yn annichon gyda Duw. A Mair á ddywedodd, Wele, wasanaethyddes yr Arglwydd. Bydded i mi yn ol dy wir di. Yna yr ymadawodd yr angel.





