1
Mathew 7:7
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
Confronta
Esplora Mathew 7:7
2
Mathew 7:8
Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir.
Esplora Mathew 7:8
3
Mathew 7:24
Pob un, ynteu, a glyw fy ngeiriau hyn, ac a’u gwna, a gyffelybir i ŵr call a adeiladodd ei dŷ ar y graig
Esplora Mathew 7:24
4
Mathew 7:12
Popeth, ynteu, a fynnoch i ddynion eu gwneuthur i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
Esplora Mathew 7:12
5
Mathew 7:14
canys cul yw’r porth a chyfyng yw’r ffordd sy’n arwain i’r bywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n cael hyd iddi.
Esplora Mathew 7:14
6
Mathew 7:13
Ewch i mewn trwy’r porth cul; canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd i mewn ar hyd-ddi
Esplora Mathew 7:13
7
Mathew 7:11
Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofyn iddo?
Esplora Mathew 7:11
8
Mathew 7:1-2-1-2
Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn y bernwch y’ch bernir, ac â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwi.
Esplora Mathew 7:1-2-1-2
9
Mathew 7:26
A phawb a glyw fy ngeiriau hyn, ac nis gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod
Esplora Mathew 7:26
10
Mathew 7:3-4
A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad di? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r fflewyn o’th lygad,’ a dyna’r trawst yn dy lygad di?
Esplora Mathew 7:3-4
11
Mathew 7:15-16
Gochelwch y gau broffwydi, sy’n dyfod atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn sy’n lleiddiaid rheibus. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Yn sicr ni chasgl neb rawnwin oddi ar ddrain neu ffigys oddi ar ysgall?
Esplora Mathew 7:15-16
12
Mathew 7:17
Felly pob pren da a rydd ffrwythau da, ond y pren sâl a rydd ffrwythau gwael.
Esplora Mathew 7:17
13
Mathew 7:18
Ni all pren da ddwyn ffrwythau gwael, na phren sâl ddwyn ffrwythau da.
Esplora Mathew 7:18
14
Mathew 7:19
Pob pren ni roddo ffrwyth da a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
Esplora Mathew 7:19