1
Mathew 18:20
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr wyf yn eu canol.”
Confronta
Esplora Mathew 18:20
2
Mathew 18:19
Drachefn yn wir meddaf i chwi, os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear ar ddim oll a’r a ofynnont, fe ddaw iddynt oddi wrth fy Nhad sydd yn y nefoedd.
Esplora Mathew 18:19
3
Mathew 18:2-3
A galwodd ato blentyn, a gosododd ef yn eu canol, a dywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, oddieithr eich troi a dyfod fel plant, nid ewch ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
Esplora Mathew 18:2-3
4
Mathew 18:4
Y neb, gan hynny, a’i darostyngo’i hun fel y plentyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
Esplora Mathew 18:4
5
Mathew 18:5
A phwy bynnag a dderbynio un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i
Esplora Mathew 18:5
6
Mathew 18:18
Yn wir meddaf i chwi, pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhyddhau yn y nef.
Esplora Mathew 18:18
7
Mathew 18:35
Felly hefyd y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch bob un i’w frawd o’ch calon.”
Esplora Mathew 18:35
8
Mathew 18:6
ond pwy bynnag a baro rwystr i un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof i, fe dalai iddo fod maen melin mawr wedi ei grogi am ei wddf a’i foddi yn eigion y môr.
Esplora Mathew 18:6
9
Mathew 18:12
Beth a debygwch chwi? Os bydd i ryw ddyn gant o ddefaid a chrwydro o un ohonynt, oni edy ef y cant namyn un ar y mynyddoedd a myned i geisio’r grwydredig?
Esplora Mathew 18:12