Salmydd 9

9
SALM IX.
7.8. Penllwyn. Hosanna.
1Ti, Arglwydd, a glodforaf,
Dy ryfeddodau draethaf,
2A gorfoleddus ganaf i
Dy enw Di’r Goruchaf;
4Y farn oedd imi a’r mater
A ddygaist i eglurder,
Gan roddi o’th orseddfainc fry
Y farn o du cyfiawnder.
5Pan godaist i geryddu
* Am y dinystrydd darfu;
6Diwreiddiwyd ef o dir y byw,
7Ond teyrnas Dduw a bery;
Darparodd ei orseddfa,
8A’r bobl yn uniawn farna,
9Efe i’r gorthrymedig fydd
Ar gyfyng ddydd yn noddfa.
10Y rhai dy enw adwaenant
Oll ynot ymddiriedant,
Can’s ni adewaist, Arglwydd, neb
O’r rhai dy wyneb geisiant;
13O byrth yr angeu creulon
Ti a’m dyrchefi’n dirion,
14Fel y moliannwyf finau’th wyrth
O fewn i byrth merch Seion.
* 16Yr Arglwydd a adwaenir,
Ei uniawn farn a welir,
17Syrth annuwiolion dan ei lid,
18A’r tlawd byth nid anghofir;
19Ymddyrcha, Dduw y nefoedd,
20Nes crynu o’r cenhedloedd
Fel y gwybydder trwy’r holl fyd
Mai gwellt i gyd yw ’r bobloedd.

Chwazi Kounye ya:

Salmydd 9: SC1885

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte