Salmydd 10
10
SALM X.
M. H. Babilon. Spires.
1Paham, O! Dduw, y sefi Di
Fel hyn yn mhell oddiwrthym ni?
Paham y troi dy wyneb draw
Yn nydd cyfyngder, ing, a braw?
2-4Ag uchel ffroen wrth lunio trais
* Medd yr annuwiol, — Duw ni chais;
* A Duw nid oes ond yn y nef
Yw swm ei holl feddyliau ef.
* 5I’w ffyrdd mae ansigledig lwydd,
A’th farnau uchel ynt o’i wydd;
Chwal ei elynion pan y chwyth,
6A dywed, Ni’m symudir byth.
9Un modd a llew mewn dirgel rawd
Cynllwyn y mae i ddal y tlawd;
10-11A’i enau’n llawn o dwyll a chel,
D’wed yn ei galon, Duw ni wêl.
12O! cyfod, Arglwydd, dyrcha’th law,
Ar yr annuwiol gosod fraw;
Gwaedd y cystuddiol cofia, clyw,
13Pa’m y dirmyga’r anwir Dduw?
Nid ymofyni, medd efe;
14Ond gweli gam yn mhob rhyw le,
Ac arnat Ti y gedy’r tlawd
17Ei achos i weinyddu brawd.
Duw a wrandawodd ar ein llef,
A’r gorthrymedig farna Ef,
Fel na chwanego marwol ddyn
I osod ofn ar neb rhyw un.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 10: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.
Salmydd 10
10
SALM X.
M. H. Babilon. Spires.
1Paham, O! Dduw, y sefi Di
Fel hyn yn mhell oddiwrthym ni?
Paham y troi dy wyneb draw
Yn nydd cyfyngder, ing, a braw?
2-4Ag uchel ffroen wrth lunio trais
* Medd yr annuwiol, — Duw ni chais;
* A Duw nid oes ond yn y nef
Yw swm ei holl feddyliau ef.
* 5I’w ffyrdd mae ansigledig lwydd,
A’th farnau uchel ynt o’i wydd;
Chwal ei elynion pan y chwyth,
6A dywed, Ni’m symudir byth.
9Un modd a llew mewn dirgel rawd
Cynllwyn y mae i ddal y tlawd;
10-11A’i enau’n llawn o dwyll a chel,
D’wed yn ei galon, Duw ni wêl.
12O! cyfod, Arglwydd, dyrcha’th law,
Ar yr annuwiol gosod fraw;
Gwaedd y cystuddiol cofia, clyw,
13Pa’m y dirmyga’r anwir Dduw?
Nid ymofyni, medd efe;
14Ond gweli gam yn mhob rhyw le,
Ac arnat Ti y gedy’r tlawd
17Ei achos i weinyddu brawd.
Duw a wrandawodd ar ein llef,
A’r gorthrymedig farna Ef,
Fel na chwanego marwol ddyn
I osod ofn ar neb rhyw un.
Chwazi Kounye ya:
:
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.