Salmydd 37
37
SALM XXXVII.
8.7. D. Gaerwen. Ledforth.
1Nac ymddigia di oherwydd
Y drygionus yn dy ŵydd,
Ac na chenfigena os gweli
I rai anwireddus lwydd;
2Canys buan fel y glaswellt
Torir hwynt o’u lle i’r llawr,
Ac yn ebrwydd gwywant ymaith
Fel y llysiau gwyrdd eu gwawr.
3Rho dy obaith yn yr Arglwydd,
Gwna ddaioni yn dy fyw;
* Trig o fewn y tir yn dawel,
* Ymborth ar ffyddlondeb Duw;
4Ymddigrifa hefyd ynddo,
Dymuniadau’th galon gei;
5Treigla arno’th ffordd yn wastad,
Felly ti a’i sicrhei.
6Fe ddwg allan dy gyfiawnder
Fel goleuni yn y man;
Bydd dy farn fel y canolddydd, —
7Disgwyl wrtho enaid gwan;
Ymddistawa yn yr Arglwydd,
Na foed ar dy ael di ŵg
Pan y gweli o flaen dy lygaid
Lwyddiant ar amcanion drwg.
8Paid a digio na chynhyrfu
* Rhag tueddu felly at fai;
16Gwell ychydig eiddo’r cyfiawn
Na mawr olud euog rai;
23Trefna’r Arglwydd ei gerddediad,
Ac i lawr yn llwyr ni ddaw;
Er ei gwympo, Duw a’i cynal
Beunydd â’i alluog law.
35Gwelais gadarn ŵr annuwiol,
Yn y fro ymledai’n hyf
* Fel y gwyrddlas bren canghenog
Yn ei dir ei hun a dŷf;
36Mor ddisymwth y diflanodd!
I ba le ’does neb a ŵyr;
Ceisiais ef, ac nid oedd mo’no:
Darfuasai am dano’n llwyr.
37Ystyr dithau’n dda y perffaith,
Craffa ar yr uniawn ŵr;
Diwedd hwnw fydd tangnefedd,
Canys Duw sydd iddo’n dŵr;
38Cyd‐ddistrywir y troseddwyr,
Diwedd iddynt hwy ni bydd;#37:38 SALM XXXVII. 38. “Diwedd yr annuwiolion a dorir ymaith;” h. y., diwedd yn yr ystyr o gyflawniad amcan bywyd. Sylwer ar y cyferbyniad sydd rhwng diwedd yr adnod hon â diwedd yr un flaenorol.
Ni chyrhaeddant eu hamcanion,
Nos a’u deil ar ganol dydd.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 37: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.