Salmydd 30
30
SALM XXX.
M. H. Sebastian. Rockingham.
1-3Mawrygaf Di, O! Arglwydd Dduw,
Am gadw f’enaid bach yn fyw;
Iachëaist fi, a’th dirion wedd
A’m dygai’n ol o byrth y bedd.
4Cenwch i’r Arglwydd ei saint Ef,
Clodforwch enw Brenin nef;
5Ni phery ei lid ond moment brin,
Ac yn ei ffafr mae bywyd in’.
* Llettywr unnos ar ei daith,
Digroesaw, ydyw llygad llaith;
Yn foreu, foreu, try ei gefn,
A nwyfiant ddaw yn ol drachefn.
6Mi a ddywedais yn fy llwydd —
Ni’m syflir bellach lawer blwydd,
7Gwn Arglwydd mai dy wyneb Di
Ro’i gryfder yn fy mynydd I.
I ddwyn y gwir i ddyn ar go’
Dy wyneb guddiaist fyr o dro;
Mawr fu fy helbul, bryfyn gwan,
Pallai fy anadl yn y fan.
8-9Pan lefais arnat yn y nos,
Pa fudd sydd yn fy ngwaed o’r ffos?
11Fy ngalar yn llawenydd droes,
12A chanaf iti ddyddiau f’oes.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 30: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.