Salmydd 27

27
SALM XXVII.
8.8.8. Llangoedmor. Nashville.
1Goleuni ac iachawdwriaeth im’
Yw’r Arglwydd, ac nid ofnaf ddim;
2Gelynion, tramgwyddasant hwy;
3I’m herbyn pe cyfodai llu
O’r ddaear ac o uffern ddu,
Mae Duw ei hun yn llawer mwy.
4Un peth ddeisyfais gan fy Nuw,
A hyny geisiaf tra b’wyf byw, —
Preswylio yn ei dŷ mewn hedd.
I edrych ar ei degwch drud,
A gofyn cynghor yn ei bryd;
Fy nefoedd ydyw gwel’d ei wedd.
5Yn nirgel fan ei babell cudd
Fy enaid ar dymhestlog ddydd,
A chraig yr oesoedd dan fy nhraed;
6A wele’n awr y dyrcha ’mhen
Goruwch pob gelyn is y nen;
Mi ganaf am y gongcwest gaed.
7-8O! Arglwydd, eto clyw fy llais,
Fy nghalon am dy wyneb gais
9-10Yn ol dy air yn ddinacâd;
Na thro mewn dig dy wyneb draw,
Fy nghymorth fuost; moes dy law
Pan heddyw’m gwrthyd mam a thad.
11Dysg im’ dy ffordd, O! Arglwydd mawr,
12Rhag iddynt gael fy mhen i lawr, —
I’m herbyn cododd tystion gau;
13Llwyr ddiffygiasai f’enaid I
Pe na chredaswn ynot Ti;
14Disgwyliaf wrthyt i barhau.

Chwazi Kounye ya:

Salmydd 27: SC1885

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte