Salmydd 26

26
SALM XXVI.
M. H. Rockingham. Angel’s Hymn.
1Barn fi, O! Arglwydd, gwel fy ngham,
Can’s rhodiais yn y ffordd ddinam;
* F’ymddiried ynot, disigl yw,
2Fy nghalon chwilia’n llwyr, O! Dduw.
3Mae’th ras yn wastad ger fy mron,
Ymrodiais yn dy wir yn llon;
4-5A rhoddais, gweli, gyfiawn gâs
Ar gynulleidfa gwŷr diras.
6A dwylaw glân dy allor Di
Yn wastad amgylchynaf fi,
7I draethu mewn clodforus lef
Holl ryfeddodau gras y nef.
8Preswylfa dy ogoniant Di,
Y goreu fan, a garaf fi;
9-10Na chasgl f’enaid byth i blaid
Annuwiol halogedig haid.
11Yn fy mherffeithrwydd byddaf byw;
Trugaredd dyro imi, O! Dduw;
12A gwnaf, wrth sefyll ar yr iawn,
O’th fawl y gynulleidfa’n llawn.

Chwazi Kounye ya:

Salmydd 26: SC1885

Pati Souliye

Pataje

Kopye

None

Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte