Salmydd 20
20
SALM XX.
8.7. D. Llangan. Hensel.
1-2Arglwydd, dyro i’th Eneiniog
Mewn cyfyngder nawdd y Nef;
3Cofia holl rinweddau ’i aberth,
4Llanwer ei ddymuniad Ef:
5Yna ninau orfoleddwn
Yn dy iachawdwriaeth rad,
Ac a chwyfiwn ein banerau
Oddiar uchelfanau ’r wlad.
6Duw o nefoedd ei sancteiddrwydd,
Gwn na thry ’i Eneiniog draw;
Gwrendy ef yn ngrym achubol
Ei alluog ddeheu law;
7Rhai hyderant ar gerbydau,
Meirch a darpariadau drud;
Ninau gofiwn enw ’r Arglwydd,
Ac nid ofnwn waetha ’r byd.
8Dacw’r gelyn yn ymollwng,
Cwymp i’r ddaear yn ei waed;
Ninau’n llawen ymddyrchafwn,
Ac a safwn ar ein traed:
9Achub, Arglwydd, achub etto,
Bydded arnom nawdd y nef;
Ti dy hunan yw ein Brenin,
Pan y galwom clyw ein llef.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 20: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.