Salmydd 18
18
SALM XVIII.
6.8. Beverley. Normandy.
1O! Arglwydd caraf Di,
Cadernid egwan ŵr;
2Amddiffyn wyt i mi,
Fy nghraig a’m huchel dŵr;
3Yr Arglwydd canmoladwy fydd,
Pan alwyf arno, i’m rhoi yn rhydd
4-5Pan oedd o’m cylch yn cau
* Reffynau uffern ddu,
6Fy llef a glybu’n glau
O’i deml sanctaidd fry;
7Cynhyrfai’r ddaear ger ei fron,
8A thân o’i enau ysai hon.
9Gostyngai’r nefoedd fawr
Dan bwys ei gamrau’n dod,
Mewn dig y sathrai i lawr
Dywyllwch yn ei rod;
10Marchogai’r cerub ar ei hynt,
Ehedai ar adenydd gwynt.
11Yn babell iddo ’i hun
Gwnaeth dew gymylau’r nef;
12Aent heibio bob yr un
Yn ngoleu’i wyneb Ef;
13Yn dân a chenllysg doent i lawr
Wrth daran floedd y Breuin Mawr.
14Mellt saethau’i ddigter llym
Wnaent i’m gelynion ffoi;
15Ei anadl yn ei grym
Ddynoethai’n ddiymdroi
Waelodion eitha’m carchar llaith,
A dwfn sylfeini’r ddaear faith.
16Anfonodd oddifry
A thynodd fi i’r lan;
17Yn fyw o’r dyfnder du
Gwaredodd f’enaid gwan;
19Myfi o’i gariad heddyw sydd
Mewn eang le yn rhodio yn rhydd.
RHAN II.
8.5. “HOLD THE FORT,” (Sankey.)
29Toraf yn fy Nuw trwy’r fyddin,
Llamaf dros y mur;
30Perffaith ydyw yn ei lwybrau,
Saif i’w air yn bur;
Tarian yw i bawb a gredant,
Megys ag i mi;
31Pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd?
Craig, ond ein Duw ni?
32Dwyfol nerth sydd i’m gwregysu,
33Traed ewigod ges;
34Dysg fy nwylaw i ryfela, —
* Plygaf fwa pres. Tarian yw, &c.
35Ei ddeheulaw a’m cynhaliodd,
Ac o’i fwynder Ef
Mi yn ddirfawr a ddyrchafwyd, —
Rhyfedd ras y nef. Tarian yw, &c.
36Pellder dan fy nhraed ddiflanai,
Ac ni lithrwn ddim;
40Cefais warau fy ngelynion,
Duw fu’n gymorth im’. Tarian yw, &c.
46Byw yw’r Arglwydd a bendithier
Duw fy nghraig o hyd;
Duw fy iachawdwriaeth goder,
49Moler drwy’r holl fyd! Tarian yw, &c.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 18: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.
Salmydd 18
18
SALM XVIII.
6.8. Beverley. Normandy.
1O! Arglwydd caraf Di,
Cadernid egwan ŵr;
2Amddiffyn wyt i mi,
Fy nghraig a’m huchel dŵr;
3Yr Arglwydd canmoladwy fydd,
Pan alwyf arno, i’m rhoi yn rhydd
4-5Pan oedd o’m cylch yn cau
* Reffynau uffern ddu,
6Fy llef a glybu’n glau
O’i deml sanctaidd fry;
7Cynhyrfai’r ddaear ger ei fron,
8A thân o’i enau ysai hon.
9Gostyngai’r nefoedd fawr
Dan bwys ei gamrau’n dod,
Mewn dig y sathrai i lawr
Dywyllwch yn ei rod;
10Marchogai’r cerub ar ei hynt,
Ehedai ar adenydd gwynt.
11Yn babell iddo ’i hun
Gwnaeth dew gymylau’r nef;
12Aent heibio bob yr un
Yn ngoleu’i wyneb Ef;
13Yn dân a chenllysg doent i lawr
Wrth daran floedd y Breuin Mawr.
14Mellt saethau’i ddigter llym
Wnaent i’m gelynion ffoi;
15Ei anadl yn ei grym
Ddynoethai’n ddiymdroi
Waelodion eitha’m carchar llaith,
A dwfn sylfeini’r ddaear faith.
16Anfonodd oddifry
A thynodd fi i’r lan;
17Yn fyw o’r dyfnder du
Gwaredodd f’enaid gwan;
19Myfi o’i gariad heddyw sydd
Mewn eang le yn rhodio yn rhydd.
RHAN II.
8.5. “HOLD THE FORT,” (Sankey.)
29Toraf yn fy Nuw trwy’r fyddin,
Llamaf dros y mur;
30Perffaith ydyw yn ei lwybrau,
Saif i’w air yn bur;
Tarian yw i bawb a gredant,
Megys ag i mi;
31Pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd?
Craig, ond ein Duw ni?
32Dwyfol nerth sydd i’m gwregysu,
33Traed ewigod ges;
34Dysg fy nwylaw i ryfela, —
* Plygaf fwa pres. Tarian yw, &c.
35Ei ddeheulaw a’m cynhaliodd,
Ac o’i fwynder Ef
Mi yn ddirfawr a ddyrchafwyd, —
Rhyfedd ras y nef. Tarian yw, &c.
36Pellder dan fy nhraed ddiflanai,
Ac ni lithrwn ddim;
40Cefais warau fy ngelynion,
Duw fu’n gymorth im’. Tarian yw, &c.
46Byw yw’r Arglwydd a bendithier
Duw fy nghraig o hyd;
Duw fy iachawdwriaeth goder,
49Moler drwy’r holl fyd! Tarian yw, &c.
Chwazi Kounye ya:
:
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.