Salmydd 17
17
SALM XVII.
5.7.9. Intercession. (American Hymn.)
1-3Gwrando fy ngweddi,
Dwg i oleuni,
Arglwydd, gywirdeb dy was;
Wrth dy eiriau pur diwall
4Cedwais draw o lwybrau’r fall,
Y rhai sydd imi, gweli, mor gas.
* 5Dilyn dy lwybrau
Gadwodd fy nghamrau,
Do, rhag eu llithro i’r llaid;
6Gelwais arnat, O! fy Nuw,
Tithau fy ymadrodd clyw,
Dyro gymhorth i’r egwan wrth raid.
7Dangos dy ryfedd
Dirion drugaredd,
Yna nid ofnaf un dim;
8-9Cadw fi rhag marwol friw
Megys canwyll llygad wiw;
Ie, cysgod d’adenydd dod im’.
11-12Gwel fy ngelynion
Fel llewod creulon,
Cylchant fi foreu a nawn;
15Mi edrychaf ar dy wedd
Mewn cyfiawnder pur a hedd,
A dihunaf o’th ddelw yn llawn.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 17: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.
Salmydd 17
17
SALM XVII.
5.7.9. Intercession. (American Hymn.)
1-3Gwrando fy ngweddi,
Dwg i oleuni,
Arglwydd, gywirdeb dy was;
Wrth dy eiriau pur diwall
4Cedwais draw o lwybrau’r fall,
Y rhai sydd imi, gweli, mor gas.
* 5Dilyn dy lwybrau
Gadwodd fy nghamrau,
Do, rhag eu llithro i’r llaid;
6Gelwais arnat, O! fy Nuw,
Tithau fy ymadrodd clyw,
Dyro gymhorth i’r egwan wrth raid.
7Dangos dy ryfedd
Dirion drugaredd,
Yna nid ofnaf un dim;
8-9Cadw fi rhag marwol friw
Megys canwyll llygad wiw;
Ie, cysgod d’adenydd dod im’.
11-12Gwel fy ngelynion
Fel llewod creulon,
Cylchant fi foreu a nawn;
15Mi edrychaf ar dy wedd
Mewn cyfiawnder pur a hedd,
A dihunaf o’th ddelw yn llawn.
Chwazi Kounye ya:
:
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.