Salmydd 16
16
SALM XVI.
6.8. Gwladys. Alun.
1O! Dduw, bydd Geidwad im.
Can’s ynot mae fy nghred;
* 2Uwch da ni feddaf ddim,
Fy nghalon wrthyt dd’wed;
* 3Yr urddasolion yw dy saint,
A’u cwmni i mi’n hyfrydol fraint.
4Gofidiau amlhant
I bawb o’r ynfyd rai
Ar ol oferedd ânt;
Ni byddaf yn eu bai,
5Ond gorfoleddaf yn fy Nuw,
Sef rhan fy etifeddiaeth yw.
7Bendithiaf Di, fy Nuw,
Am ddysg i ddewis hon;
8Gosodaf tra f’wyf byw
Yr Arglwydd ger fy mron;
Nid ofnaf unrhyw ddrygau ddaw,
Am ei fod ar fy neheu law.
9Ni chollaf ddim o ’mraint
Er gwaelu o angau’m gwedd;
10Ni edy Duw ei saint
Yn ngharchar oer y bedd;
11Ond llwybr y bywyd egyr draw
I fythol hedd ei ddeheu law.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 16: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.