Ecsodus 15

15
CAN MOSHEH, ECSODUS XV.
Cyfieithiad Newydd yn nes at drefn yr Hebraeg.
1Canaf i Iehofah, canys uchel yr ymddyrchafodd;
March a’i farchog a fwriodd Efe yn y mor.
2Fy nerth a’m cân yw Iah,
Ac aeth i mi yn iachawdwriaeth.
Hwn yw fy Nuw, a molaf Ef;
Duw fy nhad, a dyrchafaf Ef:
3Iehofah, gwr rhyfel yw;
Iehofah yw Ei enw.
4Cerbydau Pharaoh a’i lu a daflodd Efe yn y mor;
A’r dewis o’i gadbeniaid a foddiwyd yn y Mor Coch:
5Yr eigion a’u gorchuddiodd;
Disgynasant i’r dyfnderau, fel carreg.
6Dy ddeheulaw, O Iehofah, sydd fawrydig mewn gallu,
Dy ddeheulaw, O Iehofah, a chwilfriwiodd y gelyn.
7Ym mawredd Dy ogoniant y tynni i lawr Dy wrth-ymgodwyr,
Danfoni Dy lid — ysa efe hwynt fel sofl!
8Trwy chwythad dy ffroenau pentyrwyd y dyfroedd,
Sefyll fel carn a wnaeth y ffrydiau;
Cydymlynodd y dyfnderau ynghanol y mor.
9Dywedodd y gelyn, ‘Erlidiaf; goddiweddaf;
Rhannaf yr yspail; gorlenwir fy enaid a hwynt;
Tynnaf fy nghleddyf; difetha fy llaw hwynt;’
10Chwythaist a’th wynt, gorchuddiodd y mor-hwynt,
Soddasant, fel plwm, yn y dyfroedd mawrydig!
11Pwy fel Tydi, ymhlith y duwiau, O Iehofah?
Pwy fel Tydi; yn fawrydig mewn sancteiddrwydd,
Yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau.
12Estynaist Dy law, llyngcodd y ddaear hwynt!
13Arweiniaist, yn Dy drugaredd, y bobl hyn a waredaist;
Tywysaist hwynt a’th nerth i’th anneddle sanctaidd,
14Clywodd y bobloedd — crynant;
Gwewyr a ymaflodd ym mhreswylwyr Pelesheth.
15Yna y dychrynwyd tywysogion Edom;
Hyrddod Moab, ynddynt yr ymaflodd cryndod;
Toddodd holl breswylwyr Canaan:
16Syrthiodd arnynt fraw ac arswyd;
Gan fawredd dy fraich tawsant fol carreg,
Nes myned trosodd o’th bobl, O Iehofah,
17Nes myned trosodd o’r bobl hyn a brynaist;
Dygi hwynt, a phlenni hwynt ym mynydd Dy etifeddiaeth,
Lle Dy drigfa, yr hwn a wnaethost O Iehofah,
Cyssegr, Arglwydd, yr hwn, a sefydlodd Dy ddwylaw.
18Iehofah a deyrnasa byth ac yn dragywydd.
21Ac attebodd Miriam iddynt#15:21 [sef y gwyr yn adnod 1.]
Cenwch i Iehofah, canys uchel yr ymddyrchafodd;
March a’i farchog a fwriodd Efe yn y mor.

वर्तमान में चयनित:

Ecsodus 15: CTB

हाइलाइट

शेयर

कॉपी

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion आपके अनुभव को वैयक्तिकृत करने के लिए कुकीज़ का उपयोग करता है। हमारी वेबसाइट का उपयोग करके, आप हमारी गोपनीयता नीति में वर्णित कुकीज़ के हमारे उपयोग को स्वीकार करते हैं।