Yr hwn a rodia (mewn) cyfiawnder, ac a draetha uniondeb,
Yr hwn a ddirmygo elw gorthrymder,
Yr hwn a ysgydwo ei law oddi wrth ariandag,
Yr hwn a gauo ei glust rhag clywed am waed,
Yr hwn a gauo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni:
Hwn yr uchelderau a breswylia,
Cestyll y creigiau (a fydd) ei uchel ymddiffynfa;
Ei fara a roddir (iddo); ei ddwfr (a fydd) sicr