YouVersion Logo
Search Icon

Luc 11

11
Dysgeidiaeth ar Weddi
Mth. 6:9–15; 7:7–11
1Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i'w ddisgyblion ef.” 2Ac meddai wrthynt, “Pan weddïwch, dywedwch:
“ ‘Dad,#11:2 Yn ôl darlleniad arall, Ein Tad yn y nefoedd. sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;#11:2 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir gweler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef
3dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol;#11:3 Neu, ein bara at yfory. Neu, y bara sy'n ein cynnal.
4a maddau inni ein pechodau,
oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy'n troseddu yn ein herbyn#11:4 Groeg, sydd mewn dyled i ni.;
a phaid â'n dwyn i brawf#11:4 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir ond gwared ni rhag yr Un drwg..’ ”
5Yna meddai wrthynt, “Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, ‘Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi, 6oherwydd y mae cyfaill imi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i'w osod o'i flaen’; 7a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, ‘Paid â'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti’, 8rwy'n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau. 9Ac yr wyf fi'n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. 10Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws. 11Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i'w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn? 12Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion? 13Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn ganddo.”
Iesu a Beelsebwl
Mth. 12:22–30; Mc. 3:20–27
14Yr oedd yn bwrw allan gythraul, a hwnnw'n un mud. Ac wedi i'r cythraul fynd allan, llefarodd y mudan. Synnodd y tyrfaoedd, 15ond meddai rhai ohonynt, “Trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae'n bwrw allan gythreuliaid.” 16Yr oedd eraill am ei brofi, a gofynasant am arwydd ganddo o'r nef. 17Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau hwy, ac meddai wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, a'r tai yn cwympo ar ben ei gilydd.#11:17 Neu, ei difrodi, ac y mae tŷ a ymrannodd yn ei erbyn ei hun yn syrthio. 18Ac os yw Satan yntau wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, sut y saif ei deyrnas?—gan eich bod chwi'n dweud mai trwy Beelsebwl yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid. 19Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu. 20Ond os trwy fys Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch. 21Pan fydd dyn cryf yn ei arfwisg yn gwarchod ei blasty ei hun, bydd ei eiddo yn cael llonydd; 22ond pan fydd un cryfach nag ef yn ymosod arno ac yn ei drechu, bydd hwnnw'n cymryd yr arfwisg yr oedd ef wedi ymddiried ynddi, ac yn rhannu'r ysbail. 23Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae.
Yr Ysbryd Aflan yn Dychwelyd
Mth. 12:43–45
24“Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ond heb ei gael. Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’ 25Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn. 26Yna y mae'n mynd ac yn cymryd ato saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn mynd i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf.”
Gwynfyd Gwirioneddol
27Wrth iddo ddweud hyn, cododd gwraig o'r dyrfa ei llais ac meddai wrtho, “Gwyn eu byd y groth a'th gariodd di a'r bronnau a sugnaist.” 28“Nage,” meddai ef, “gwyn eu byd y rhai sy'n clywed gair Duw ac yn ei gadw.”
Ceisio Arwydd
Mth. 12:38–42; Mc. 8:12
29Wrth i'r tyrfaoedd gynyddu, dechreuodd lefaru: “Y mae'r genhedlaeth hon yn genhedlaeth ddrygionus; y mae'n ceisio arwydd. Eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona. 30Oherwydd fel y bu Jona yn arwydd i bobl Ninefe, felly y bydd Mab y Dyn yntau i'r genhedlaeth hon. 31Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda phobl y genhedlaeth hon, ac yn eu condemnio hwy; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon. 32Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon, ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona.
Goleuni'r Corff
Mth. 5:15; 6:22–23
33“Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei rhoi mewn man cudd neu dan lestr, ond ar ganhwyllbren, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni. 34Dy lygad yw cannwyll dy gorff. Pan fydd dy lygad yn iach, y mae dy gorff hefyd yn llawn goleuni; ond pan fydd yn sâl, y mae dy gorff hefyd yn llawn tywyllwch. 35Ystyria gan hynny ai tywyllwch yw'r goleuni sydd ynot ti. 36Felly, os yw dy gorff yn llawn goleuni, heb unrhyw ran ohono mewn tywyllwch, bydd yn llawn goleuni, fel pan fydd cannwyll yn dy oleuo â'i llewyrch.”
Cyhuddo'r Phariseaid ac Athrawon y Gyfraith
Mth. 23:1–36; Mc. 12:38–40; Lc. 20:45–47
37Pan orffennodd lefaru, gwahoddodd Pharisead ef i bryd o fwyd yn ei dŷ. Aeth i mewn a chymryd ei le wrth y bwrdd. 38Pan welodd y Pharisead nad oedd wedi ymolchi yn gyntaf cyn bwyta, fe synnodd. 39Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Yr ydych chwi'r Phariseaid yn wir yn glanhau tu allan y cwpan a'r ddysgl, ond o'ch mewn yr ydych yn llawn anrhaith a drygioni. 40Ynfydion, onid yr hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd? 41Ond rhowch yn elusen y pethau sydd y tu mewn i'r cwpan, a dyna bopeth yn lân ichwi. 42Ond gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys a rhyw a phob llysieuyn, ond yn diystyru cyfiawnder a chariad Duw, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, ond heb esgeuluso'r lleill. 43Gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn caru'r prif gadeiriau yn y synagogau a'r cyfarchiadau yn y marchnadoedd. 44Gwae chwi, oherwydd yr ydych fel beddau heb eu nodi, a phobl yn cerdded drostynt yn ddiarwybod.”
45Atebodd un o athrawon y Gyfraith ef, “Athro, wrth ddweud hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau.” 46Meddai ef, “Gwae chwithau athrawon y Gyfraith, oherwydd yr ydych yn beichio pobl â beichiau anodd eu dwyn, beichiau nad yw un o'ch bysedd chwi byth yn cyffwrdd â hwy. 47Gwae chwi, oherwydd yr ydych yn codi beddfeini i'r proffwydi, ond eich hynafiaid chwi a'u lladdodd. 48Gan hynny, yn ôl eich tystiolaeth eich hunain, yr ydych yn cymeradwyo gweithredoedd eich hynafiaid, oherwydd hwy a'u lladdodd, a chwi sy'n codi'r beddfeini. 49Am hynny hefyd y dywedodd Doethineb Duw, ‘Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a byddant yn lladd ac yn erlid rhai ohonynt’; 50ac felly gelwir y genhedlaeth hon i gyfrif am waed yr holl broffwydi, a dywalltwyd er seiliad y byd, 51o waed Abel hyd at waed Sechareia, a drengodd rhwng yr allor a'r cysegr. Ie, rwy'n dweud wrthych, fe elwir y genhedlaeth hon i gyfrif amdano. 52Gwae chwi athrawon y Gyfraith, oherwydd ichwi gymryd ymaith allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd am fynd i mewn, eu rhwystro a wnaethoch.” 53Wedi iddo fynd allan oddi yno dechreuodd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid fagu dig tuag ato, a'i holi yn fanwl ynghylch llawer o bethau, 54gan aros fel helwyr i'w faglu ar ryw air o'i enau.

Currently Selected:

Luc 11: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy