YouVersion Logo
Search Icon

2 Pedr 1

1
Cyfarch
1Simeon Pedr, gwas ac apostol Iesu Grist, at y rhai sydd, trwy gyfiawnder ein Duw a'n Gwaredwr Iesu Grist, wedi derbyn ffydd gyfuwch ei gwerth â'r eiddom ninnau. 2Gras a thangnefedd a amlhaer i chwi trwy adnabyddiaeth o Dduw ac Iesu ein Harglwydd!
Galwad ac Etholedigaeth y Cristion
3Y mae ei allu dwyfol wedi rhoi i ni bob peth sy'n angenrheidiol i fywyd a duwioldeb trwy ein hadnabyddiaeth o'r hwn a'n galwodd â'i weithred ogoneddus a rhagorol ei hun. 4Trwy hyn y mae ef wedi rhoi i ni addewidion gwerthfawr dros ben, er mwyn i chwi trwyddynt hwy ddianc o afael llygredigaeth y trachwant sydd yn y byd, a dod yn gyfranogion o'r natur ddwyfol. 5Am yr union reswm yma, felly, gwnewch eich gorau glas i ychwanegu rhinwedd at eich ffydd, gwybodaeth at rinwedd, 6hunanddisgyblaeth at wybodaeth, dyfalbarhad at hunanddisgyblaeth, duwioldeb at ddyfalbarhad, 7brawdgarwch at dduwioldeb, a chariad at frawdgarwch. 8Oherwydd os yw'r rhain gennych, ac ar gynnydd, byddant yn peri nad diog a diffrwyth fyddwch yn eich adnabyddiaeth o'n Harglwydd Iesu Grist. 9Ond hebddynt y mae rhywun mor fyr ei olwg nes bod yn ddall, heb ddim cof ganddo am y glanhad oddi wrth ei bechodau gynt. 10Dyna pam, gyfeillion, y dylech ymdrechu'n fwy byth i wneud eich galwad a'ch etholedigaeth yn sicr. Oherwydd os gwnewch hyn, ni lithrwch byth. 11Felly y rhydd Duw ichwi, o'i haelioni, fynediad i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist.
12Am hynny, rwy'n bwriadu eich atgoffa'n wastad am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sefydlu'n gadarn yn y gwirionedd sydd gennych. 13Tra bydd y cnawd hwn yn babell imi, yr wyf yn ystyried ei bod hi'n iawn imi eich deffro trwy eich atgoffa amdanynt. 14Gwn y bydd yn rhaid i mi roi fy mhabell heibio yn fuan, fel y mae ein Harglwydd Iesu Grist, yn wir, wedi gwneud yn eglur imi. 15Gwnaf fy ngorau, felly, i ofalu y byddwch, ar ôl fy ymadawiad, yn gallu dwyn y pethau hyn yn wastad i gof.
Gogoniant Crist a'r Gair Proffwydol
16Nid dilyn chwedlau wedi eu dyfeisio'n gyfrwys yr oeddem wrth hysbysu i chwi allu ein Harglwydd Iesu Grist a'i ddyfodiad; yn hytrach, yr oeddem wedi ei weld â'n llygaid ein hunain yn ei fawredd. 17Yr oeddem yno pan roddwyd iddo anrhydedd a gogoniant gan Dduw Dad, pan ddaeth y llais ato o'r Gogoniant goruchel yn dweud: “Hwn yw fy Mab, fy Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu.” 18Fe glywsom ni'r llais hwn yn dod o'r nef, oherwydd yr oeddem gydag ef ar y mynydd sanctaidd. 19Y mae gennym hefyd genadwri gwbl ddibynadwy y proffwydi; a pheth da fydd i chwi roi sylw iddi, gan ei bod fel cannwyll yn disgleirio mewn lle tywyll, hyd nes y bydd y Dydd yn gwawrio a seren y bore yn codi i lewyrchu yn eich calonnau. 20Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw'r un broffwydoliaeth o'r Ysgrythur 21yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân.

Currently Selected:

2 Pedr 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy