YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 1

1
PENNOD. I.
1 Achau Crist yr hwn yw’r Messiah a addawsid i’r tadau. 18 Genedigaeth Iesu Grist.
1Llyfr #1.1-25 ☞ Yr Efengyl y Sul cyntaf wedi dydd Natalic.#Luc.3.23.cenhedliad Iesu Grist, fâb Dafydd, fâb Abraham.
2 # Gene.21.2. Abraham a genhedlodd Isaac; #Gene.25.24.Isaac a genhedlodd Iacob; #Gene.29.35.Iacob a genhedlodd Iudas a’i frodyr.
3Ac #Gene.38.27.Iwdas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar, a #1.Cron.2.5. Ruth.4.18.Phares a genhedlodd Esrom, ac Esrom a genhedlodd Aram.
4Ac Aram, a genhedlodd Aminadab, ac Aminadab a genhedlodd Naasson; ac Naasson a genhedlodd Salmon:
5A #Ruth.4.21.Salmon a genhedlodd Booz o Rachab, a Booz a genhedlodd Obed o Ruth, ac Obed a genhedlodd Iesse.
6Ac #1.Sam.16.1. & 17.12.Iesse a genhedlodd Dafydd frenin, a #2.Sam.12.24.Dafydd frenin a genhedlodd Salomon o’r hon (a fuasai wraig) Urias.
7A #1.Bren.11.43. 1.Cron.3.10,11.Salomon a genhedlodd Roboam, a Roboam a genhedlodd Abia, ac Abia a genhedlodd Asa.
8Ac Asa a genhedlodd Iosaphat, a Iosaphat a genhedlodd Ioram, a Ioram a genhedlodd Ozias.
9Ac Ozias a genhedlodd Ioatham, a Ioatham a genhedlodd Achaz, ac Achaz a genhedlodd Ezechias.
10Ac #2.Bren.20.21 & 21.18. 1.Cron.3.13.Ezechias a genhedlodd Manasses, a Manasses a genhedlodd Amon, ac Amon a genhedlodd Iosias.
11A #2.Bren.23.34. & 24.1.Iosias a genhedlodd Iechonias a’i frodyr, yng-hylch amser y caeth-gludiad i Babilon.
12Ac yn ôl y caeth-gludiad i Babilon, #1.Cron.3.16.Iechonias a genhedlodd Salathiel, a #1.Cron.3.17. 1.Esdr.3.2.|1ES 3:2 & 5.2.Salathiel a genhedlodd Zorobabel.
13A Zorobabel a genhedlodd Abiud, ac Abiud a genhedlodd Eliacim, ac Eliacim a genhedlodd Azor.
14Ac Azor a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Achim, ac Achim a genhedlodd Eliud;
15Ac Eliud a genhedlodd Eleazar, ac Eleazar a genhedlodd Matthan, a Matthan a genhedlodd Iacob.
16Ac Iacob a genhedlodd Ioseff gŵr Mair, o’r hō y ganed Iesu yr hwn a elwir Crist.
17Yr holl oesoedd gan hynny o Abraham i Ddafydd [ydynt] bedair cenhedlaeth ar ddêc: ac o Ddafydd hyd y caethgludiad i Babilon pedair cenhedlaeth ar ddêc: ac o’r caeth-gludiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddêc.
18A genedigaeth Iesu Christ oedd fel hyn: wedi dyweddio Mair ei fam ef a Ioseph, cyn eu dyfod hwy yng-hyd, hi a gafwyd yn feichiog trwy yr Ysbryd glân.
19Ac Ioseff ei gŵr hi am ei fod efe yn gyfiawn ac heb ewyllysio ei #Deut.24.1.hortio hi, a amcanodd ei rhoi hi ymmaith yn ddirgel.
20A thra’r oedd efe yn bwriadu hyn, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangosodd iddo ef trwy [ei] hun gan ddywedyd, Ioseph, mab Dafydd nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, o blegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Ysbryd Glân.
21A hi a esgor ar fab, â thi a elwi #Luc.1.31.ei enw ef IESU: o blegit efe a achub ei bobl #Act.4.12.rhag eu pechodau.
22A hyn oll a wnaethpwyd i gyflawni’r hyn a ddywedodd gan yr Arglwydd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd:
23 # Esa.7.14. Wele, Morwyn a fydd feichiog, ac a ddwg fab, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hwn os cyfieithir a arwyddocâ, Duw gyd â ni.
24Ac Ioseph, pan ddeffroes o gwsg a wnaeth megis y gorchymynnase Angel yr Arglwydd iddo ef, ac a gymmerodd ei wraig.
25Ac nid adnabu efe hi hyd oni escorodd hi ar ei mab cyntaf-anedic, a galwodd ei henw ef IESU.

Currently Selected:

Mathew 1: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in