YouVersion Logo
Search Icon

Sechareia 14

14
Y Frwydr Olaf a’r ARGLWYDD yn dod
1Mae dydd yr ARGLWYDD yn dod, pan fydd eich eiddo i gyd yn cael ei gymryd a’i rannu o’ch blaen chi. 2Dw i’n mynd i gasglu’r gwledydd at ei gilydd i ryfel yn erbyn Jerwsalem.#Eseciel 38 Bydd y ddinas yn cael ei choncro, eich cartrefi’n cael eu gwagio, a’ch gwragedd yn cael eu treisio. Bydd hanner y boblogaeth yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion, ond yr hanner arall yn aros yn y ddinas.
3Ond yna bydd yr ARGLWYDD yn mynd allan i ymladd yn erbyn y gwledydd hynny, fel gwnaeth e ymladd yn y gorffennol. 4Bryd hynny bydd e’n sefyll ar Fynydd yr Olewydd i’r dwyrain o Jerwsalem. A bydd Mynydd yr Olewydd yn hollti o’r dwyrain i’r gorllewin, gan adael dyffryn llydan. Bydd hanner y mynydd yn symud tua’r gogledd, a hanner tua’r de. 5A byddwch chi’n dianc ar hyd y dyffryn yma yr holl ffordd i Atsel, fel gwnaethoch chi ddianc adeg y daeargryn pan oedd Wseia’n frenin ar Jwda.#14:5 daeargryn … ar Jwda Daeargryn ddigwyddodd yn 760 cc mae’n debyg – gw. Amos 1:1. Yna bydd fy ARGLWYDD Dduw yn dod, a’i angylion sanctaidd gydag e.
6Bryd hynny fydd dim golau – bydd y sêr disglair yn rhewi. 7Bydd yn ddiwrnod unigryw. Yr ARGLWYDD sy’n gwybod pryd. Fydd dim dydd na nos; ac eto bydd hi’n dal yn olau gyda’r nos.
8Bryd hynny hefyd bydd dŵr glân croyw yn llifo allan o Jerwsalem – ei hanner yn llifo i’r dwyrain, i’r Môr Marw, a’r hanner arall i’r gorllewin, i Fôr y Canoldir. Bydd yn llifo rownd y flwyddyn, haf a gaeaf. 9A bydd yr ARGLWYDD yn frenin dros y byd i gyd. Yr ARGLWYDD fydd yr unig un, a’i enw e fydd yn cael ei addoli. 10Bydd y tir i gyd (o Geba i Rimmon,#14:10,11 o Geba i Rimmon Ffiniau Jwda, fwy neu lai, cyn y gaethglud (gw. 2 Brenhinoedd 23:8); mae Geba tua 10 milltir i’r gogledd o Jerwsalem, a Rimmon tua 10 milltir i’r gogledd o Beersheba. sydd i’r de o Jerwsalem) yn cael ei droi yn dir gwastad. Ond bydd Jerwsalem gyfan yn sefyll yn uchel yn ei lle – o Giât Benjamin i safle’r Giât gyntaf ac yna ymlaen at Giât y Gornel, ac o Dŵr Chanan-el i’r cafnau gwin brenhinol. 11Bydd pobl yn byw yno, a fydd y ddinas byth eto’n cael ei melltithio a’i dinistrio. Bydd Jerwsalem yn hollol saff.
12Ond bydd yr ARGLWYDD yn anfon pla i daro’r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem: Bydd eu cyrff yn pydru tra byddan nhw’n dal ar eu traed. Bydd eu llygaid yn pydru’n eu pennau. Bydd eu tafodau’n pydru’n eu cegau.
13Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn achosi panig llwyr yn eu plith. Byddan nhw’n ymladd ei gilydd! 14Bydd hyd yn oed Jwda yn ymuno yn y ffrwgwd! A bydd cyfoeth y gwledydd yn cael ei gasglu i Jerwsalem – aur, arian a llwythi o ddillad. 15Bydd pla yn taro’r anifeiliaid yng ngwersylloedd y gelyn – bydd eu ceffylau, mulod, camelod, asynnod, a’r anifeiliaid eraill i gyd yn cael eu taro gan bla.
16Yna bydd pawb fydd yn dal yn fyw (o’r gwledydd hynny wnaeth ymosod ar Jerwsalem) yn mynd i Jerwsalem bob blwyddyn i addoli’r Brenin, yr ARGLWYDD hollbwerus, ac i ddathlu Gŵyl y Pebyll. 17Ac os bydd unrhyw grŵp o bobl drwy’r byd i gyd yn gwrthod mynd i Jerwsalem i addoli’r Brenin, yr ARGLWYDD hollbwerus, fyddan nhw’n cael dim glaw. 18Os bydd yr Eifftiaid yn gwrthod mynd, fyddan nhw’n cael dim glaw. Bydd yr ARGLWYDD yn eu taro nhw gyda’r plâu mae’n eu hanfon ar y gwledydd hynny sy’n gwrthod mynd i ddathlu Gŵyl y Pebyll. 19Dyna sut bydd yr Aifft ac unrhyw wlad arall sy’n gwrthod mynd i ddathlu’r Ŵyl, yn cael eu cosbi.
20Bryd hynny bydd y geiriau “Wedi ei gysegru i’r ARGLWYDD#Exodus 28:36; 39:30 i’w gweld ar glychau harnais ceffylau. Bydd y crochanau i ferwi cig yn y Deml yr un mor gysegredig â’r powlenni taenellu o flaen yr allor. 21Bydd pob crochan yn Jerwsalem a Jwda wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD hollbwerus. Bydd y bobl sy’n dod i aberthu yn gallu eu defnyddio i ferwi cig yr aberthau ynddyn nhw. A bryd hynny fydd dim marchnatwyr yn nheml yr ARGLWYDD hollbwerus.

Currently Selected:

Sechareia 14: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy