YouVersion Logo
Search Icon

Ruth 1

1
Trasiedi’r teulu wnaeth symud i wlad Moab
1Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â’i wraig a’i ddau fab gydag e. 2Elimelech oedd enw’r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion#1:2 Machlon a Cilion Ystyr yr enwau ydy “salwch” a “bregus” – falle yn adlewyrchu eu cyflwr ar ôl eu geni. oedd enwau’r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw’n mynd i wlad Moab ac yn aros yno. 3Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a’i gadael hi yn weddw gyda’i dau fab.
4Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab. (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall.) Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd, 5dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr.
Ruth yn aros gyda Naomi
6Tra oedd hi’n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i’w bobl. Felly, dyma hi a’i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab. 7Dyma nhw’n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a chychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda. 8Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw. 9A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi’ch dwy briodi eto.” Wedyn dyma Naomi yn cusanu’r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw’n dechrau crio’n uchel. 10“Na!” medden nhw, “gad i ni fynd yn ôl gyda ti at dy bobl di.” 11Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Gaf i byth feibion eto i chi eu priodi nhw. 12Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i’n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau’n cael gŵr heno ac yn cael plant, 13fyddech chi’n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi’n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.”
14Dyma nhw’n dechrau crio’n uchel eto. Wedyn dyma Orpa’n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio’n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael. 15Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a’i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.” 16Ond atebodd Ruth,
“Paid rhoi pwysau arna i i dy adael di
a throi cefn arnat ti.
Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd.
A dw i’n mynd i aros ble bynnag fyddi di’n aros.
Bydd dy bobl di yn bobl i mi,
a dy Dduw di yn Dduw i mi.
17Ble bynnag fyddi di’n marw,
dyna lle fyddai i’n marw
ac yn cael fy nghladdu.
Boed i Dduw ddial arna i
os bydd unrhyw beth ond marwolaeth
yn ein gwahanu ni’n dwy.”
18Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth. 19A dyma’r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem.
Naomi a Ruth yn cyrraedd Bethlehem
Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?” 20A dyma hi’n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‘Naomi’. Galwch fi’n ‘Mara’. Mae’r Un sy’n rheoli popeth#1:20 Hebraeg, Shadai. wedi gwneud fy mywyd i’n chwerw iawn. 21Roedd fy mywyd i’n llawn pan es i o ma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi’n ‘Naomi’ pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a’r Un sy’n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.”
22Felly daeth Naomi yn ôl o wlad Moab gyda’i merch-yng-nghyfraith, Ruth, y Foabes. Dyma nhw’n cyrraedd Bethlehem ar ddechrau’r cynhaeaf haidd.

Currently Selected:

Ruth 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy