YouVersion Logo
Search Icon

Micha 1

1
1Dyma’r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth.#1:1 Moresheth Pentref neu dref fach yn ne-orllewin Jwda, wrth ymyl Gath – gw. adn. 14. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda.#2 Brenhinoedd 15:32-38; 2 Cronicl 27:1-7; 2 Brenhinoedd 16:1-20; 2 Cronicl 28:1-27; 2 Brenhinoedd 18:1–20:21; 2 Cronicl 29:1–32:33 Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem.#1:1 Samaria a Jerwsalem Samaria oedd prifddinas teyrnas y gogledd (Israel), a Jerwsalem oedd prifddinas teyrnas y de (Jwda).
Dinistrio Samaria yn rhybudd i Jerwsalem
2Gwrandwch, chi bobl i gyd!
Cymrwch sylw, bawb sy’n byw drwy’r byd!
Mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn;
mae’n eich cyhuddo chi o’i deml sanctaidd.
3Edrychwch! Mae’r ARGLWYDD yn dod!
Mae’n dod i lawr ac yn sathru’r mynyddoedd!
4Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed,
a’r dyffrynnoedd yn hollti.
Bydd y creigiau’n toddi fel cwyr mewn tân,
ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau.
5Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela,
a phobl Israel wedi pechu.
Sut mae Jacob wedi gwrthryfela?
Samaria ydy’r drwg!
Ble mae allorau paganaidd Jwda?
Yn Jerwsalem!
6“Dw i’n mynd i droi Samaria
yn bentwr o gerrig mewn cae agored –
bydd yn lle i blannu gwinllannoedd!
Dw i’n mynd i hyrddio ei waliau i’r dyffryn
a gadael dim ond sylfeini’n y golwg.
7Bydd ei delwau’n cael eu dryllio,
ei thâl am buteinio yn llosgi’n y tân,
a’r eilunod metel yn bentwr o sgrap!
Casglodd nhw gyda’i thâl am buteinio,#1:7 tâl am buteinio Yn y temlau paganaidd, roedd dynion yn cael rhyw gyda phuteiniaid fel rhan o’r addoliad.
a byddan nhw’n troi’n dâl i buteiniaid eto.”
8Dyna pam dw i’n galaru a nadu,
a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau;
yn udo’n uchel fel siacaliaid,
a sgrechian cwyno fel cywion estrys.
9Fydd salwch Samaria ddim yn gwella!
Mae wedi lledu i Jwda –
mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl
yn Jerwsalem wedi dal y clefyd!
Mae’r gelyn ar ei ffordd
10‘Peidiwch dweud am y peth yn Gath!’#1:10 Gath Un o drefi’r Philistiaid. Mae’r llinell yma yn dyfynnu llinell o gân Dafydd er cof am Saul a Jonathan ar ôl iddyn nhw gael eu lladd gan y Philistiaid mewn brwydr ar Fynydd Gilboa – 2 Samuel 1:20.
Peidiwch crio rhag iddyn nhw’ch clywed chi!
Bydd pobl Beth-leaffra#1:10 Beth-leaffra Mae Beth-leaffra yn swnio fel yr Hebraeg am “Tŷ’r Llwch”. yn rholio yn y llwch.
11Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio
yn noeth ac mewn cywilydd.
Bydd pobl Saänan yn methu symud,
a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru –
fydd hi ddim yn dy helpu eto.
12Bydd pobl Maroth#1:12 Maroth Mae Maroth yn swnio fel yr Hebraeg am “pethau chwerw”. yn aflonydd
wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd
na’r difrod mae’r ARGLWYDD wedi’i anfon,
ac sy’n gwasgu ar giatiau Jerwsalem.
13Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau,
bobl Lachish!#1:13 Lachish Y dref fwyaf yn ne Jwda, tua 30 milltir i’r de-orllewin o Jerwsalem.
Chi wnaeth wrthryfela fel Israel
ac arwain pobl Seion i bechu!#1:13 chi … bechu Yn Hebraeg mae “Lachish” yn swnio fel “tîm o geffylau (sy’n tynnu cerbyd rhyfel)” Falle fod Lachish yn symbol o’r ffaith fod pobl yn trystio grym milwrol yn lle trystio’r ARGLWYDD. Neu falle fod addoli eilunod a syniadau paganaidd wedi dod i’r wlad o’r Aifft drwy Lachish.
14Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél
wrth Moresheth-gath,
a bydd tai Achsib#1:14 Achsib Ystyr Achsib ydy ‘twyllodrus’ neu ‘siomedig’. Heb fod yn bell o Ogof Adwlam (adn. 15), ble cuddiodd Dafydd oddi wrth y Brenin Saul (gw. 1 Samuel 22:1,2). Bydd pobl Israel yn ceisio dianc am eu bywydau, ond gobaith gwag fydd hynny (gw. adn. 15). yn siomi –
bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel.
15Bobl Maresha,#1:15 Maresha Mae’n swnio’n debyg i’r gair Hebraeg am ‘concwerwr’. Roedd Maresha ychydig filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Lachish. Roedd y ddwy yn gaerau amddiffynnol ers cyfnod Rehoboam (gw. 2 Cronicl 11:5-10). bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref,
a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam#1:15 ogof Adwlam gw. y nodyn ar 1:14. eto.
16Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaru
am y plant rwyt ti’n dotio atyn nhw.
Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur,
am fod y gelyn yn mynd i’w cymryd nhw’n gaeth.

Currently Selected:

Micha 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy