YouVersion Logo
Search Icon

Job 1

1
Y dyn Job, a’i deulu
1Un tro roedd dyn o’r enw Job yn byw yng ngwlad Us.#1:1 Us Does neb yn gwybod yn union ble roedd Us. Roedd yn ddyn gonest, yn trin pobl eraill yn deg, ac yn ddyn oedd yn addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. 2Roedd ganddo saith mab a thair merch. 3A dyma restr o’i holl eiddo: saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum cant pâr o ychen a phum cant o asennod, a nifer fawr iawn o weithwyr. Roedd yn fwy cyfoethog nag unrhyw un arall o bobl y dwyrain i gyd.
4Roedd ei feibion yn arfer cynnal partïon yn eu cartrefi, pob un yn ei dro ar ddiwrnod penodol o’r wythnos. Bydden nhw’n gwahodd eu tair chwaer i fwyta ac yfed gyda nhw. 5Pan oedd yr wythnos o bartïo drosodd, byddai Job yn anfon amdanyn nhw iddyn nhw fynd drwy’r ddefod o gael eu glanhau. Byddai’n codi’n gynnar yn y bore, ac yn cyflwyno offrymau i’w llosgi i Dduw ar eu rhan nhw i gyd. Roedd yn meddwl, “Falle fod fy mhlant i wedi pechu, ac wedi melltithio Duw.” Roedd Job yn gwneud hyn yn rheolaidd.
Duw a’r Satan
6Un diwrnod dyma’r bodau nefol yn dod i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a dyma’r Satan#1:6 Satan “y gwrthwynebwr” neu “y cyhuddwr”. yn dod gyda nhw. 7Gofynnodd yr ARGLWYDD i’r Satan, “Ble wyt ti wedi bod?” Atebodd y Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond crwydro yma ac acw ar y ddaear.”
8A dyma’r ARGLWYDD yn gofyn i’r Satan, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae’n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae’n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.”
9Atebodd y Satan, “Ond mae dy addoli di yn fanteisiol iddo! 10Y ffaith ydy, rwyt ti wedi gosod ffens o’i gwmpas i’w amddiffyn, ac o gwmpas ei deulu a phopeth sydd ganddo. Ti’n gadael iddo lwyddo beth bynnag mae’n ei wneud. Mae ganddo ddigon o anifeiliaid i lenwi’r wlad i gyd! 11Ond petaet ti’n cymryd y cwbl oddi arno, byddai’n dy felltithio di yn dy wyneb!”
12Felly dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth y Satan, “Edrych, cei wneud beth bynnag rwyt ti eisiau i’w eiddo; ond paid cyffwrdd Job ei hun.”
Yna dyma’r Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD.
Trasiedïau yn dod i brofi Job
13Un diwrnod, roedd meibion a merched Job yn bwyta ac yn yfed gwin mewn parti yn nhŷ’r brawd hynaf. 14A dyma negesydd yn dod at Job a dweud, “Roedd yr ychen yn aredig, a’r asennod yn pori heb fod yn bell oddi wrthyn nhw, 15a dyma’r Sabeaid yn ymosod ac yn eu cymryd nhw i gyd, a lladd y gweision gyda’r cleddyf. Fi ydy’r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
16Tra oedd yn dal i siarad, dyma negesydd arall yn cyrraedd a dweud, “Mae mellten wedi lladd y defaid i gyd a’r gweision oedd yn gofalu amdanyn nhw – mae’r cwbl wedi mynd! Fi ydy’r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
17Tra oedd hwn yn dal i siarad, daeth negesydd arall eto, a dweud, “Mae Caldeaid#1:17 Caldeaid Hen enw ar bobl Babilonia. wedi dwyn y camelod i gyd. Roedd tair mintai ohonyn nhw, yn ymosod o wahanol gyfeiriadau. Maen nhw wedi cymryd y cwbl, ac wedi lladd y gweision i gyd. Fi ydy’r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
18A tra oedd hwn yn dal i siarad dyma un arall yn dod ac yn dweud, “Roedd dy feibion a dy ferched di’n bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ’r brawd hynaf, 19ac yn sydyn dyma gorwynt ofnadwy yn chwythu dros yr anialwch ac yn taro’r tŷ. Syrthiodd yr adeilad ar ben y bobl ifanc a’u lladd nhw i gyd! Fi ydy’r unig un lwyddodd i ddianc i ddweud wrthot ti.”
Job yn addoli’r ARGLWYDD
20Dyma Job yn codi ar ei draed ac yn rhwygo’i ddillad. Yna siafiodd ei ben a mynd ar ei liniau o flaen Duw â’i wyneb ar lawr, 21a dweud:
“Ces i fy ngeni heb ddim,
a bydda i’n marw heb ddim.
Yr ARGLWYDD wnaeth roi popeth i mi,
a’r ARGLWYDD sydd wedi cymryd popeth oddi arna i.
Boed i enw’r ARGLWYDD gael ei foli!”
22Er gwaetha’r cwbl, wnaeth Job ddim pechu na rhoi’r bai ar Dduw.

Currently Selected:

Job 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy