YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 2

2
Trefn y Llwythau yn y gwersyll
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: 2Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu’r Tabernacl. Mae pawb i wersylla dan fflag eu llwyth eu hunain. 3-9Ar yr ochr ddwyreiniol, bydd adrannau’r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth Arweinydd Nifer
Jwda Nachshon fab Aminadab 74,600
Issachar Nethanel fab Tswár 54,400
Sabulon Eliab fab Chelon 57,400
Cyfanswm: 186,400
Y milwyr ar ochr Jwda i’r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.
10-16I’r de, bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth Arweinydd Nifer
Reuben Eliswr fab Shedeŵr 46,500
Simeon Shelwmiel fab Swrishadai 59,300
Gad Eliasaff fab Dewel#2:10-16 gw. Numeri 1:14, a llawer o lawysgrifau Hebraeg. 45,650
Cyfanswm: 151,450
Y milwyr yma ar ochr Reuben i’r gwersyll fydd yn ail i symud allan.
17Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda phabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae’r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.
18-24Ar yr ochr orllewinol, bydd adrannau’r tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth Arweinydd Nifer
Effraim Elishama fab Amihwd 40,500
Manasse Gamaliel fab Pedatswr 32,200
Benjamin Abidan fab Gideoni 35,400
Cyfanswm: 108,100
Y milwyr yma ar ochr Effraim i’r gwersyll fydd yn drydydd i symud allan.
25-31I’r gogledd, bydd adrannau’r tri llwyth olaf yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth Arweinydd Nifer
Dan Achieser fab Amishadai 62,700
Asher Pagiel fab Ochran 41,500
Nafftali Achira fab Enan 53,400
Cyfanswm: 157,600
Y milwyr yma ar ochr Dan i’r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.
32Dyma’r rhai gafodd eu cyfrif o bobl Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd oedd 603,550. 33Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn i Moses. 34Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

Currently Selected:

Numeri 2: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy