YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 27

27
Gwneud addewidion i’r ARGLWYDD
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth bobl Israel:
“Os ydy rhywun wedi addo cyflwyno person i mi, dyma’r prisiau sydd i’w talu (yn arian swyddogol y cysegr):
3-7– Pum deg darn arian am ddyn rhwng ugain oed a chwe deg oed,
a tri deg darn arian am wraig.
– Dau ddeg darn arian am fachgen rhwng pump oed ac ugain oed,
a deg darn arian am ferch.
– Pump darn arian am fachgen rhwng un mis a phump oed,
a tri darn arian am ferch.
– Un deg pump darn arian am ddyn dros chwe deg oed,
a deg darn arian am wraig.
8“Os ydy’r un wnaeth yr adduned yn rhy dlawd i dalu’r pris llawn, rhaid iddo fynd â’r person sydd wedi cael ei gyflwyno i mi at yr offeiriad. Bydd yr offeiriad yn penderfynu faint mae’r sawl wnaeth yr adduned yn gallu ei fforddio.
9“Os ydy rhywun wedi addo rhoi anifail i’w gyflwyno’n offrwm i’r ARGLWYDD, mae’r rhodd yna’n gysegredig. 10Dydy’r anifail ddim i gael ei gyfnewid am un arall, hyd yn oed os ydy’r anifail hwnnw’n un gwell. Os ydy e’n ceisio gwneud hynny, bydd y ddau anifail yn gysegredig. 11Os ydy e ddim yn anifail cymwys i’w offrymu i’r ARGLWYDD, rhaid iddo fynd â’r anifail hwnnw i’w ddangos i’r offeiriad. 12Bydd yr offeiriad yn penderfynu beth ydy gwerth yr anifail. 13Wedyn, os ydy’r person wnaeth addo’r anifail eisiau ei brynu’n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris.
14“Os ydy rhywun yn addo rhoi ei dŷ i’w gysegru i’r ARGLWYDD, mae’r offeiriad i benderfynu beth ydy gwerth y tŷ. 15Os ydy’r person wnaeth gyflwyno’r tŷ eisiau ei brynu’n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael.
16“Os ydy rhywun yn addo rhoi peth o dir y teulu i’w gysegru i’r ARGLWYDD, dylid penderfynu beth ydy ei werth yn ôl faint o gnwd fyddai’n tyfu arno. Pum deg darn arian am bob cant cilogram o haidd. 17Os ydy’r tir yn cael ei addo yn ystod blwyddyn y rhyddhau mawr, rhaid talu’r gwerth llawn. 18Unrhyw bryd ar ôl hynny, bydd yr offeiriad yn penderfynu faint yn llai sydd i’w dalu ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf. 19Os ydy’r person wnaeth gyflwyno’r tir eisiau ei brynu’n ôl, rhaid iddo ychwanegu 20% at y pris, a bydd yn ei gael. 20Ond os ydy e’n gwerthu’r tir i rywun arall, fydd e ddim yn cael ei brynu’n ôl byth. 21Pan ddaw blwyddyn y rhyddhau mawr, bydd y tir wedi’i neilltuo unwaith ac am byth i’r ARGLWYDD ei gadw. Bydd yn cael ei roi yng ngofal yr offeiriaid.
22“Os ydy rhywun yn cysegru i’r ARGLWYDD ddarn o dir sydd wedi’i brynu (sef tir oedd ddim yn perthyn i’w deulu), 23bydd yr offeiriad yn penderfynu faint mae e’n werth. Bydd yn ei brisio ar sail faint o flynyddoedd sydd ar ôl cyn y flwyddyn rhyddhau nesaf. Rhaid talu am y tir y diwrnod hwnnw. Mae wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD. 24Ar flwyddyn y rhyddhau, bydd y tir yn mynd yn ôl i’r person y cafodd y tir ei brynu ganddo’n wreiddiol (sef y sawl roedd y tir yn rhan o etifeddiaeth ei deulu). 25Mae’r pris i’w dalu yn ôl mesur safonol y cysegr – sef un sicl yn pwyso dau ddeg gera.
Gwahanol offrymau
26“Does gan neb hawl i gyflwyno anifail cyntaf-anedig i’r ARGLWYDD (buwch, dafad na gafr), achos yr ARGLWYDD piau’r anifail hwnnw yn barod. 27Os ydy e ddim yn anifail cymwys i’w offrymu i’r ARGLWYDD, mae ganddo hawl i’w brynu’n ôl. Rhaid iddo dalu beth ydy gwerth yr anifail, ac ychwanegu 20%. Os ydy’r anifail ddim yn cael ei brynu yn ôl, rhaid iddo’i werthu am faint bynnag mae e’n werth.
28“Dydy rhywbeth sydd wedi’i gadw o’r neilltu i’r ARGLWYDD (yn berson dynol, yn anifail neu’n ddarn o dir y teulu) ddim i gael ei werthu na’i brynu’n ôl. Mae popeth sydd wedi’i gadw o’r neilltu iddo yn gysegredig. Mae’n perthyn i’r ARGLWYDD. 29Dydy person dynol sydd wedi’i gadw o’r neilltu iddo ddim i gael ei brynu’n ôl. Rhaid i’r person hwnnw gael ei ladd.
30“Yr ARGLWYDD sydd biau un rhan o ddeg o bopeth yn y wlad – y cnydau o rawn ac o ffrwythau. Mae wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD. 31Os ydy rhywun eisiau prynu’r un rhan o ddeg yn ôl, rhaid iddo dalu’r pris llawn amdano ac ychwanegu 20%.
32“Mae un rhan o ddeg o’r gyr o wartheg ac o’r praidd o ddefaid a geifr i gael ei gysegru i’r ARGLWYDD. Wrth iddyn nhw basio dan ffon y bugail i gael eu cyfrif, mae pob degfed anifail i gael ei gysegru i’r ARGLWYDD. 33Does gan y perchennog ddim hawl i wahanu’r anifeiliaid da oddi wrth y rhai gwan, neu i gyfnewid un o’r anifeiliaid. Os ydy e’n gwneud hynny, bydd y ddau anifail wedi’u cysegru i’r ARGLWYDD. Fydd dim hawl i brynu’r naill na’r llall yn ôl.”
34Dyma’r rheolau roddodd yr ARGLWYDD i bobl Israel drwy Moses ar Fynydd Sinai.

Currently Selected:

Lefiticus 27: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy