YouVersion Logo
Search Icon

Jona 3

3
Jona’n mynd i Ninefe
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona unwaith eto. 2“Dos i ddinas fawr Ninefe ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi’r neges dw i’n ei rhoi i ti.” 3A’r tro yma dyma Jona’n gwneud hynny, fel roedd yr ARGLWYDD eisiau. Aeth yn syth i Ninefe. (Roedd Ninefe yn ddinas anferth. Roedd hi’n cymryd tri diwrnod i gerdded drwyddi!) 4Ar ôl cerdded drwyddi am ddiwrnod, dyma Jona’n cyhoeddi, “Mewn pedwar deg diwrnod bydd dinas Ninefe yn cael ei dinistrio!#3:4 dinistrio: Hebraeg, “troi drosodd”, y gellid ei gyfieithu hefyd fel trawsnewid.
5Credodd pobl Ninefe neges Duw. A dyma nhw’n galw ar bawb i ymprydio (sef peidio bwyta) ac i wisgo sachliain – y bobl gyfoethog a’r tlawd. 6Pan glywodd brenin Ninefe am y peth, dyma fe hyd yn oed yn codi o’i orsedd, tynnu ei wisg frenhinol i ffwrdd, rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw.#3:6 rhoi sachliain amdano, ac eistedd mewn lludw roedd pobl yn gwneud hyn i ddangos eu bod nhw’n sori am wneud pethau drwg. 7-8A dyma fe’n gwneud datganiad cyhoeddus: “Dyma mae’r brenin a’i swyddogion yn ei orchymyn:
Does neb o bobl Ninefe i fwyta nac yfed (na’r anifeiliaid chwaith – gwartheg na defaid).
Rhaid i bawb wisgo sachliain. A dylid hyd yn oed roi sachliain ar yr anifeiliaid.
Mae pawb i weddïo’n daer ar Dduw, a stopio gwneud drwg a bod mor greulon.
9Pwy a ŵyr? Falle y bydd Duw yn newid ei feddwl ac yn stopio bod mor ddig gyda ni, a fydd dim rhaid i ni farw.”
10Pan welodd Duw eu bod nhw wedi stopio gwneud y pethau drwg roedden nhw’n arfer eu gwneud, wnaeth e ddim eu cosbi nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud cyn hynny.

Currently Selected:

Jona 3: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy