YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 7

7
Iesu’n mynd i Ŵyl y Pebyll
1Wedi hyn aeth Iesu o gwmpas Galilea. Roedd yn cadw draw o Jwdea yn fwriadol am fod yr arweinwyr Iddewig yno am ei ladd. 2Ond pan oedd Gŵyl y Pebyll#gw. Lefiticus 23:33-43; Deuteronomium 16:13-17 (un arall o wyliau’r Iddewon) yn agos, 3dyma frodyr Iesu’n dweud wrtho, “Dylet ti adael yr ardal hon a mynd i Jwdea, i’r dilynwyr sydd gen ti yno gael gweld y gwyrthiau rwyt ti’n eu gwneud! 4Does neb sydd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg yn gweithredu o’r golwg. Gan dy fod yn gallu gwneud y pethau yma, dangos dy hun i bawb!” 5(Doedd hyd yn oed ei frodyr ei hun ddim yn credu ynddo.)
6“Dydy hi ddim yn amser i mi fynd eto” meddai Iesu wrthyn nhw, “ond gallwch chi fynd unrhyw bryd. 7Dydy’r byd ddim yn gallu’ch casáu chi, ond mae’n fy nghasáu i am fy mod yn tystio fod yr hyn mae’n ei wneud yn ddrwg. 8Ewch chi i’r Ŵyl. Dw i ddim yn barod i fynd i’r Ŵyl eto, am ei bod hi ddim yr amser iawn i mi fynd.” 9Ar ôl dweud hyn arhosodd yn Galilea.
10Ond ar ôl i’w frodyr fynd i’r Ŵyl, daeth yr amser i Iesu fynd hefyd. Ond aeth yno’n ddistaw bach, allan o olwg y cyhoedd. 11Yn yr Ŵyl roedd yr arweinwyr Iddewig yn edrych allan amdano. “Ble mae e?” medden nhw. 12Roedd llawer o siarad amdano’n ddistaw bach ymhlith y tyrfaoedd. Rhai yn dweud ei fod yn ddyn da. Eraill yn dweud ei fod yn twyllo pobl. 13Ond doedd neb yn mentro dweud dim yn gyhoeddus amdano am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig.
Iesu’n dysgu yn yr Ŵyl
14Roedd hi dros hanner ffordd drwy’r Ŵyl cyn i Iesu fynd i gwrt allanol y deml a dechrau dysgu yno. 15Roedd yr arweinwyr crefyddol yn rhyfeddu ac yn gofyn, “Sut mae’r dyn yma’n gwybod cymaint heb fod wedi cael ei hyfforddi?”
16Atebodd Iesu, “Dw i ddim yn dysgu ohono i’n hun. Mae’n dod oddi wrth Dduw, yr un anfonodd fi. 17Bydd pwy bynnag sy’n dewis gwneud beth mae Duw eisiau yn darganfod fod beth dw i’n ei ddysgu yn dod oddi wrth Dduw, a mod i ddim yn siarad ar fy liwt fy hun. 18Mae’r rhai sy’n siarad ohonyn nhw eu hunain yn ceisio ennill anrhydedd iddyn nhw’u hunain, ond mae’r un sy’n gweithio i anrhydeddu’r un wnaeth ei anfon e yn ddyn gonest; does dim byd ffals amdano. 19Oni wnaeth Moses roi’r Gyfraith i chi? Ac eto does neb ohonoch chi’n ufudd i’r Gyfraith. Pam dych chi’n ceisio fy lladd i?”
20“Mae cythraul yn dy wneud di’n wallgof,” atebodd y dyrfa. “Pwy sy’n ceisio dy ladd di?”
21Meddai Iesu wrthyn nhw, “Gwnes i un wyrth#7:21 un wyrth: Iacháu y dyn wedi’i barlysu – gw. 5:1-18. ar y dydd Saboth, a dych chi i gyd mewn sioc! 22Ac eto, roedd Moses wedi dweud fod rhaid i chi gadw defod enwaedu (er mai dim gan Moses ddaeth hi mewn gwirionedd, ond gan dadau’r genedl#Lefiticus 12:3; Genesis 17:10), a dych chi’n enwaedu bachgen ar y Saboth. 23Nawr, os ydy’n iawn i fachgen gael ei enwaedu ar ddydd Saboth er mwyn peidio torri Cyfraith Moses, pam dych chi wedi gwylltio am fy mod i wedi iacháu rhywun yn llwyr ar y Saboth? 24Stopiwch fod mor arwynebol wrth farnu; barnwch yn gywir bob amser.”
Ai Iesu ydy’r Meseia?
25Roedd rhai o bobl Jerwsalem yn gofyn, “Onid hwn ydy’r dyn maen nhw’n ceisio’i ladd? 26Mae e yma yn siarad yn gwbl agored, a dŷn nhw’n dweud dim! Tybed ydy’r awdurdodau wedi dod i’r casgliad mai fe ydy’r Meseia? 27Ond wedyn, dŷn ni’n gwybod o ble mae’r dyn yma’n dod; pan ddaw’r Meseia, fydd neb yn gwybod o ble mae’n dod.” 28A dyma Iesu, oedd yn dysgu yng nghwrt y deml ar y pryd, yn cyhoeddi’n uchel, “Ydych chi’n fy nabod i? Ydych chi’n gwybod o ble dw i’n dod? Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun. Duw go iawn sydd wedi fy anfon i, ond dych chi ddim yn ei nabod e. 29Dw i’n ei nabod e, achos dw i wedi dod oddi wrtho fe. Fe ydy’r un anfonodd fi.”
30Pan ddigwyddodd hyn dyma nhw’n ceisio’i ddal, ond lwyddodd neb i’w gyffwrdd, am fod ei amser iawn ddim wedi dod eto. 31Ac eto, daeth llawer o bobl yn y dyrfa i gredu ynddo. Eu dadl oedd, “Pan ddaw’r Meseia, fydd e’n gallu gwneud mwy o arwyddion gwyrthiol na hwn?”
32Daeth y Phariseaid i wybod fod sibrydion fel hyn yn mynd o gwmpas. Felly dyma’r prif offeiriaid a’r Phariseaid yn anfon swyddogion diogelwch o’r deml i’w arestio.
33Dwedodd Iesu, “Dw i yma gyda chi am amser byr eto, ac wedyn dw i’n mynd yn ôl at Dduw, yr un anfonodd fi. 34Byddwch chi’n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Fyddwch chi ddim yn gallu dod i ble bydda i.”
35Meddai’r arweinwyr Iddewig, “I ble mae’r dyn yma ar fin mynd os fyddwn ni ddim yn gallu dod o hyd iddo? Ydy e’n mynd at ein pobl ni sy’n byw ar wasgar mewn gwledydd eraill, a dysgu pobl y gwledydd hynny? 36Beth mae’n e’n ei olygu wrth ddweud, ‘Byddwch chi’n edrych amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi,’ a ‘Fyddwch chi’n methu dod i ble bydda i’?”
Ffrydiau o ddŵr sy’n rhoi bywyd
37Ar uchafbwynt yr Ŵyl, sef y diwrnod olaf, dyma Iesu’n sefyll ac yn cyhoeddi’n uchel, “Os oes syched ar rywun, dylai ddod i yfed ata i. 38Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd ffrydiau o ddŵr sy’n rhoi bywyd yn llifo o’r rhai hynny!’#7:38 Bydd ffrydiau hynny: cyfeiriad at Nehemeia 9:15,19-20 (neu Eseia 55:1, 58:11 neu Sechareia 14:8) Mae’r adnodau yma yn edrych yn ôl at hanesion y dŵr yn dod o’r graig yn Exodus 17:1-7; Numeri 20:1-13. 39(Sôn oedd am yr Ysbryd Glân. Roedd y rhai oedd wedi credu ynddo yn mynd i dderbyn yr Ysbryd yn nes ymlaen. Ond doedd yr Ysbryd ddim wedi dod eto, am fod Iesu ddim wedi’i anrhydeddu.)
40Ar ôl clywed beth ddwedodd Iesu, dyma rhai o’r bobl yn dweud, “Y Proffwyd#7:40 Proffwyd: gw. y nodyn ar 1:21. soniodd Moses amdano ydy’r dyn yma, siŵr o fod!” 41Roedd eraill yn dweud, “Y Meseia ydy e!” Ond eraill wedyn yn dadlau, “Sut all y Meseia ddod o Galilea? 42Onid ydy’r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod y Meseia i ddod o deulu’r Brenin Dafydd ac o Bethlehem, lle roedd Dafydd yn byw?”#cyfeiriad at 2 Samuel 7:12; Salm 89:3-4 a Micha 5:2 43Felly roedd y dyrfa wedi’i rhannu – rhai o’i blaid ac eraill yn ei erbyn. 44Roedd rhai eisiau ei arestio, ond lwyddodd neb i’w gyffwrdd.
Yr arweinwyr Iddewig yn gwrthod Iesu
45Aeth swyddogion diogelwch y deml yn ôl at y prif offeiriaid a’r Phariseaid, a gofynnodd y rheiny iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi ddim dod ag e yma?”
46“Does neb erioed wedi siarad fel y dyn yma,” medden nhw.
47“Beth!” atebodd y Phariseaid, “Ydy e wedi’ch twyllo chi hefyd?” 48“Oes unrhyw un o’r arweinwyr neu o’r Phariseaid wedi credu ynddo? 49Nac oes! Dim ond y werin ddwl yma sy’n gwybod dim byd am y Gyfraith – ac maen nhw dan felltith beth bynnag!”
50Roedd Nicodemus yno ar y pryd (y dyn oedd wedi mynd at Iesu’n gynharach), a gofynnodd, 51“Ydy’n Cyfraith ni yn condemnio pobl heb roi gwrandawiad teg iddyn nhw gyntaf, er mwyn darganfod y ffeithiau?”
52Medden nhw wrtho, “Wyt ti’n dod o Galilea hefyd? Edrych di i mewn i’r peth, dydy proffwydi ddim yn dod o Galilea!”
Dydy Ioan 7:53–8:11 ddim yn y llawysgrifau cynharaf
53Yna dyma nhw i gyd yn mynd adre.

Currently Selected:

Ioan 7: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy