YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 9

9
Ymweliad Brenhines Sheba
(1 Brenhinoedd 10:1-13)
1Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon. Felly dyma hi’n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Daeth i Jerwsalem gyda’i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a’i holi am bob peth oedd ar ei meddwl. 2Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi.
3Roedd y frenhines wedi’i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. A hefyd wrth weld y palas roedd wedi’i adeiladu, 4y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a’r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i’r ARGLWYDD yn y deml. 5A dyma hi’n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti’n wir – yr holl bethau rwyt ti wedi’u cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti. 6Doeddwn i ddim wedi credu’r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â’m llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb mawr yn fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i. 7Mae’r bobl yma wedi’u bendithio’n fawr – y gweision sy’n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di. 8Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i deyrnasu ar ei ran! Am fod dy Dduw yn caru Israel ac eisiau iddyn nhw aros am byth, mae wedi dy wneud di yn frenin, i ti lywodraethu’n gyfiawn ac yn deg.”
9A dyma hi’n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i’r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau â’r hyn roedd brenhines Sheba wedi’i roi i’r Brenin Solomon. 10(Roedd gweision Huram hefyd, gyda help gweision Solomon, wedi cario aur o Offir, a llwythi lawer o goed algwm, a gemau gwerthfawr. 11Dyma’r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a phalas y brenin o’r pren algwm, a hefyd telynau a nablau i’r cerddorion. Doedd neb wedi gweld dim byd tebyg iddyn nhw yng ngwlad Jwda cyn hynny!) 12Wedyn, dyma’r Brenin Solomon yn rhoi popeth roedd hi eisiau i frenhines Sheba – mwy nag roedd hi wedi’i roi i’r brenin. A dyma hi’n mynd yn ôl adre i’w gwlad ei hun gyda’i gweision.
Cyfoeth Solomon
(1 Brenhinoedd 10:14-25)
13Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn, 14heb gyfri’r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr a’r farchnad sbeis. Roedd holl frenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau hefyd yn rhoi arian ac aur i Solomon.
15Gwnaeth Solomon ddau gant o darianau mawr o aur wedi’i guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian! 16Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dau gilogram o aur ym mhob un o’r rheiny. A dyma fe’n eu gosod nhw i fyny ym Mhlas Coedwig Libanus. 17Wedyn, dyma’r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori wedi’i gorchuddio gydag aur pur. 18Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd stôl droed aur o’i blaen a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau bob ochr. 19Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi! 20Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi’u gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi’i wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri’n werthfawr iawn bryd hynny. 21Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr#9:21 llongau masnach mawr Hebraeg, “Llongau Tarshish”, sef porthladd yn Sbaen. gyda gweision Huram yn eu hwylio. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny’n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod.#9:21 peunod neu babŵns.
22Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nag unrhyw frenin arall yn unman. 23Ac roedd brenhinoedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y doethineb roedd yr ARGLWYDD wedi’i roi iddo. 24Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod.
25Roedd gan Solomon stablau i bedair mil o geffylau cerbyd rhyfel, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw nhw mewn rhai trefi penodol ac yn Jerwsalem. 26Roedd yn rheoli’r holl wledydd o afon Ewffrates i wlad y Philistiaid, i lawr at y ffin gyda’r Aifft. 27Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â’r coed sycamor sy’n tyfu ym mhobman ar yr iseldir. 28Roedd ceffylau Solomon wedi’u mewnforio o’r Aifft a’r gwledydd eraill i gyd.
Crynodeb o deyrnasiad Solomon
(1 Brenhinoedd 11:41-43)
29Mae gweddill hanes Solomon, o’r dechrau i’r diwedd, i’w weld yn Negeseuon y Proffwyd Nathan, Proffwydoliaeth Achïa o Seilo a Gweledigaethau y Proffwyd Ido am Jeroboam fab Nebat. 30Roedd Solomon yn teyrnasu yn Jerwsalem ar Israel gyfan am bedwar deg o flynyddoedd. 31Pan fuodd Solomon farw, dyma nhw’n ei gladdu e yn Ninas Dafydd ei dad. A dyma Rehoboam, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Currently Selected:

2 Cronicl 9: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy