YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 33

33
Manasse yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 21:1-9)
1Un deg dau oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am bum deg pump o flynyddoedd. 2Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, pethau cwbl ffiaidd, fel y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi’u gyrru allan o’r wlad o flaen Israel. 3Roedd wedi ailgodi’r allorau lleol gafodd eu chwalu gan ei dad, Heseceia. Cododd allorau i dduwiau Baal, a pholion i’r dduwies Ashera. Roedd yn plygu i lawr i’r sêr ac yn eu haddoli nhw. 4Dyma fe hyd yn oed yn adeiladu allorau paganaidd yn y deml – yn y lle roedd yr ARGLWYDD wedi dweud amdano, “Bydd fy enw yn Jerwsalem am byth.” 5Cododd allorau i’r sêr yn y ddwy iard yn y deml. 6Llosgodd ei fab yn aberth yn nyffryn Ben-hinnom, ac roedd yn ymarfer dewiniaeth, darogan a swynion. Roedd yn ymhél ag ysbrydion a phobl oedd yn siarad â’r meirw. Gwnaeth lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a’i bryfocio. 7Roedd hyd yn oed wedi gwneud delw o eilun-dduw a’i gosod yn y deml! – yn y lle roedd Duw wedi dweud wrth Dafydd a’i fab Solomon amdani, “Dw i wedi dewis Jerwsalem o blith llwythau Israel i gyd, a bydda i’n byw yn y deml yma am byth. 8Wna i ddim symud Israel allan o’r tir dw i wedi’i roi i’w hynafiaid, cyn belled â’u bod nhw’n gofalu gwneud beth dw i’n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw’r Gyfraith, y rheolau a’r canllawiau gafodd eu rhoi drwy Moses.” 9Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse’n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na’r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi’u gyrru allan o flaen Israel!
10Roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Manasse a’i bobl, ond doedden nhw’n cymryd dim sylw o gwbl. 11Felly dyma’r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw’n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a’i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e’n gaeth i Babilon. 12Yng nghanol y creisis dyma fe’n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid. 13Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais, a dod ag e’n ôl i fod yn frenin yn Jerwsalem. A dyna sut daeth Manasse i ddeall mai’r ARGLWYDD oedd Dduw.
14Wedi hyn dyma Manasse yn ailadeiladu wal allanol Dinas Dafydd, o’r gorllewin i ddyffryn Gihon at Giât y Pysgod ac yna o gwmpas y terasau. Roedd hi’n wal uchel iawn. Gosododd swyddogion milwrol yn holl drefi amddiffynnol Jwda hefyd. 15Yna dyma fe’n cael gwared â’r duwiau paganaidd a’r ddelw honno o deml yr ARGLWYDD, a’r holl allorau roedd e wedi’u hadeiladu ar fryn y deml ac yn Jerwsalem. Taflodd nhw allan o’r ddinas, 16ac yna atgyweirio allor yr ARGLWYDD a chyflwyno arni offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. Yna dyma fe’n gorchymyn fod pobl Jwda i addoli’r ARGLWYDD, Duw Israel. 17Roedd y bobl yn dal i aberthu ar yr allorau lleol, ond dim ond i’r ARGLWYDD eu Duw.
Crynodeb o deyrnasiad Manasse
(2 Brenhinoedd 21:17-18)
18Mae gweddill hanes Manasse, gan gynnwys ei weddi ar Dduw, a beth roedd y proffwydi wedi’i ddweud wrtho ar ran yr ARGLWYDD, Duw Israel, i’w gweld yn Hanes Brenhinoedd Israel. 19Mae Negeseuon y Proffwydi#33:19 Negeseuon y Proffwydi Felly’r Roeg. Hebraeg, Negeseuon Hosai. hefyd yn cynnwys ei weddi a sut wnaeth Duw ymateb, cofnod o’i bechodau a’r holl bethau drwg wnaeth e, a lleoliad yr allorau lleol a pholion y dduwies Ashera a’r delwau cerrig gododd e cyn iddo gyfaddef ei fai. 20Pan fuodd Manasse farw cafodd ei gladdu yn ei balas. A dyma Amon ei fab yn dod yn frenin yn ei le.
Amon yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 21:19-26)
21Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd. 22Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â’i dad Manasse. Roedd yn aberthu i’r holl ddelwau cerrig roedd ei dad wedi’u gwneud, ac yn eu haddoli. 23A wnaeth Amon ddim troi yn ôl at yr ARGLWYDD fel ei dad. Gwnaeth fwy a mwy o bethau drwg. 24Yna dyma rai o’i swyddogion yn cynllwynio yn ei erbyn a’i ladd yn ei balas. 25Ond wedyn dyma bobl y wlad yn dienyddio pawb oedd wedi bod yn rhan o’r cynllwyn yn erbyn Amon. A dyma nhw’n gwneud Joseia, ei fab, yn frenin yn ei le.

Currently Selected:

2 Cronicl 33: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy