YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 21

21
Jehoram yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 8:17-24)
1Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda’i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
2Roedd gan Jehoram frodyr, sef Asareia, Iechiel, Sechareia, Asareiahw, Michael a Sheffateia. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Jehosaffat, brenin Jwda. 3Roedd eu tad wedi rhoi llwythi o anrhegion iddyn nhw o arian, aur a gemau yn ogystal a trefi amddiffynnol yn Jwda. Ond Jehoram gafodd fod yn frenin am mai fe oedd yr hynaf. 4Ar ôl sefydlu ei hun yn frenin ar deyrnas ei dad, dyma fe’n lladd ei frodyr i gyd a rhai o arweinwyr Jwda hefyd. 5Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu’n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. 6Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a’i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. 7Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio teulu Dafydd am ei fod wedi gwneud ymrwymiad i Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.
8Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain. 9Felly dyma Jehoram yn croesi gyda’i swyddogion a’i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi’i amgylchynu, a dyma fe’n ymosod arnyn nhw ganol nos. Ond colli’r frwydr wnaeth e. 10Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw.
Roedd tref Libna#21:10 Libna Tref ar y ffin rhwng Philistia a Jwda, sy’n golygu fod Jehoram yn wynebu gwrthryfel o bob cyfeiriad. hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd, ac ennill annibyniaeth. Roedd hyn wedi digwydd am fod Jehoram wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid. 11Roedd wedi codi allorau lleol ar y bryniau yn Jwda, ac annog pobl Jerwsalem i addoli duwiau eraill. Roedd wedi arwain pobl Jwda ar gyfeiliorn.
12Dyma Jehoram yn cael llythyr oddi wrth Elias, y proffwyd, yn dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw dy hynafiad Dafydd yn ei ddweud. ‘Ti ddim wedi ymddwyn yr un fath â Jehosaffat, dy dad ac Asa, brenin Jwda. 13Ti wedi ymddwyn fel brenhinoedd Israel, ac arwain pobl Jwda a’r rhai sy’n byw yn Jerwsalem i droi cefn ar yr ARGLWYDD, fel mae Ahab a’i deulu wedi gwneud yn Israel. Ac yn waeth na hynny, rwyt ti wedi lladd dy frodyr, ac roedden nhw’n well dynion na ti. 14Felly mae’r ARGLWYDD yn mynd i daro dy bobl, dy feibion, dy wragedd a phopeth sydd biau ti. 15A byddi di’n mynd yn sâl ac yn dioddef yn hir o afiechyd ar y bol fydd yn mynd o ddrwg i waeth nes bydd dy goluddyn yn dod allan.’”
16Dyma’r ARGLWYDD yn annog y Philistiaid a’r Arabiaid oedd yn byw ar gyrion Dwyrain Affrica i godi yn erbyn Jehoram. 17Dyma nhw’n ymosod ar Jwda, chwalu’r amddiffynfeydd, dwyn popeth gwerthfawr o balas y brenin, a chymryd ei feibion a’i wragedd yn gaethion. Ahaseia,#21:17 Ahaseia Hebraeg, Jehoachas (enw arall arno). ei fab ifancaf, oedd yr unig un gafodd ei adael ar ôl. 18Ar ben hyn i gyd dyma’r ARGLWYDD yn achosi i Jehoram ddioddef o salwch marwol yn ei fol. 19Ar ôl tua dwy flynedd, dyma’i goluddyn yn disgyn allan oherwydd y salwch, a bu farw mewn poen ofnadwy. Wnaeth ei bobl ddim cynnau tân i’w anrhydeddu, fel roedden nhw’n arfer gwneud gyda’u hynafiaid.
20Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu’n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. Doedd neb yn ei golli pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond dim ym mynwent y brenhinoedd.

Currently Selected:

2 Cronicl 21: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy