YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 10

10
Llwythau’r gogledd yn gwrthryfela
(1 Brenhinoedd 12:1-20)
1Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i’w wneud yn frenin. 2Roedd Jeroboam fab Nebat yn yr Aifft ar y pryd, wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yn yr Aifft pan glywodd beth oedd yn digwydd. 3Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe’n mynd gyda nhw i weld Rehoboam. 4“Roedd dy dad yn ein gweithio ni’n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau’n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.” 5Dyma Rehoboam yn dweud wrthyn nhw, “Dewch yn ôl mewn deuddydd, i mi gael meddwl am y peth.” A dyma nhw’n ei adael.
6Dyma’r Brenin Rehoboam yn gofyn am farn y cynghorwyr hŷn (y rhai oedd yn gweithio i Solomon ei dad pan oedd yn dal yn fyw). “Beth ydy’ch cyngor chi? Sut ddylwn ni ateb y bobl yma?” 7A dyma nhw’n dweud, “Os byddi di’n garedig a dangos dy fod eisiau eu helpu nhw, byddan nhw’n weision ffyddlon i ti am byth.” 8Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu’u cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e. 9Dyma fe’n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy’ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy’n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?” 10A dyma’r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dwed wrth y bobl yna sy’n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi’i roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad! #10:10 Mae … dad Hebraeg “Mae fy mys bach i yn dewach na chlun fy nhad.”. 11Oedd fy nhad wedi rhoi baich trwm arnoch chi? Bydda i’n rhoi baich trymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i’ch cosbi chi? Bydda i’n defnyddio chwip fydd yn rhwygo’ch cnawd chi!’”
12Dyma Jeroboam, a’r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud. 13Dyma’r brenin Rehoboam yn siarad yn chwyrn gyda nhw ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn, 14a gwrando ar y dynion ifanc. “Oedd fy nhad yn drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i’n pwyso’n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i’ch cosbi chi? Bydda i’n defnyddio chwip fydd yn rhwygo’ch cnawd chi!” 15Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw Duw tu ôl i’r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i’r neges roedd wedi’i rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir.
16Gwelodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, a dyma nhw’n rhoi’r neges yma iddo:
“Beth sydd gynnon ni i’w wneud â Dafydd?
Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse!
Yn ôl adre bobl Israel!
Cadw dy linach dy hun, Dafydd!”
Felly dyma bobl Israel yn mynd adre. 17(Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.)
18Dyma’r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol at bobl Israel, ond dyma nhw’n taflu cerrig ato a’i ladd. Felly dyma’r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem. 19Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw.

Currently Selected:

2 Cronicl 10: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy