YouVersion Logo
Search Icon

2 Samuel 3

3
1Aeth y rhyfel rhwng pobl Saul a phobl Dafydd ymlaen am amser hir. Roedd ochr Dafydd yn mynd yn gryfach ac yn gryfach, a dilynwyr Saul yn mynd yn wannach.
Meibion Dafydd gafodd eu geni yn Hebron
(1 Cronicl 3:1-4)
2Cafodd Dafydd nifer o feibion pan oedd yn byw yn Hebron.
Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.
3Yr ail oedd Cileab, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.#3:3 Geshwr Teyrnas fechan yn Syria, i’r gogledd-ddwyrain o Lyn Galilea.
4Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
5Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall i Dafydd.
Cafodd y bechgyn yma i gyd eu geni pan oedd Dafydd yn byw yn Hebron.
Abner yn newid ochr a chefnogi Dafydd
6Wrth i’r rhyfel fynd yn ei flaen rhwng pobl Saul a phobl Dafydd, roedd Abner yn ennill mwy a mwy o ddylanwad iddo’i hun ar ochr Saul. 7Pan oedd Saul yn fyw roedd ganddo bartner#3:7 bartner Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. o’r enw Ritspa, merch Aia. A dyma Ish-bosheth, mab Saul, yn cyhuddo Abner a gofyn iddo, “Pam wnest ti gysgu gyda phartner fy nhad?” 8Gwylltiodd Abner pan ddwedodd hynny, ac meddai, “Ai rhyw gi o Jwda ydw i? Hyd yn hyn dw i wedi aros yn ffyddlon i deulu Saul dy dad, a’i frodyr a’i ffrindiau; a wnes i ddim dy fradychu di i ochr Dafydd. A beth wyt ti’n wneud? – fy nghyhuddo i o bechu gyda’r wraig yna! 9Boed i Dduw ddial arna i os na wna i dros Dafydd yr union beth mae’r ARGLWYDD wedi’i addo iddo. 10Bydd y frenhiniaeth yn cael ei chymryd oddi ar deulu Saul. Bydda i’n helpu i wneud Dafydd yn frenin ar Israel a Jwda, yr holl ffordd o Dan yn y gogledd i Beersheba#3:10 Dan … Beersheba Roedd Dan wrth droed Mynydd Hermon yn y gogledd ar y llwybr masnach i Damascus. Roedd Beersheba 23 milltir i’r de-orllewin o Hebron ar y prif lwybr masnach i’r Aifft. yn y de.” 11Wnaeth Ish-bosheth ddim ei ateb yn ôl o gwbl, am fod ganddo ofn Abner.
12Yna dyma Abner yn anfon neges at Dafydd. “Pwy sy’n rheoli’r wlad yma go iawn? Gwna di gytundeb gyda mi, a gwna i helpu i droi Israel gyfan atat ti.” 13Atebodd Dafydd, “Iawn, ond ar un amod. Tyrd â Michal merch Saul gyda ti. Cei ddod ata i wedyn.”
14Anfonodd Dafydd neges at Ish-bosheth, mab Saul. “Rho fy ngwraig Michal yn ôl i mi. Gwnes i gasglu blaengrwyn cant o Philistiaid i’w chael hi.#1 Samuel 18:20-2715Felly dyma Ish-bosheth yn gyrru dynion i’w chymryd hi oddi ar ei gŵr, Paltiel fab Laish. 16A dyma’i gŵr yn ei dilyn hi yn wylo yr holl ffordd i Bachwrîm.#3:16 Bachwrîm Roedd Bachwrîm ar y ffordd rhwng Jericho a Jerwsalem, ar dir llwyth Benjamin. Ond wedi i Abner ddweud wrtho am fynd adre, dyma fe’n troi’n ôl.
17Yn y cyfamser, roedd Abner wedi cael gair gydag arweinwyr Israel. “Ers amser nawr, dych chi wedi bod eisiau cael Dafydd yn frenin. 18Wel, gwnewch hynny! Mae’r ARGLWYDD wedi dweud amdano, ‘Dw i’n mynd i ddefnyddio Dafydd i achub pobl Israel oddi wrth y Philistiaid ac oddi wrth eu gelynion i gyd.’” 19Yna aeth i gael gair gyda phobl Benjamin.#3:19 pobl Benjamin Y llwyth roedd Saul ei hun yn perthyn iddo.
Yna dyma Abner yn mynd i Hebron i ddweud wrth Dafydd beth oedd Israel a llwyth Benjamin wedi’i gytuno. 20Aeth â dau ddeg o ddynion gydag e, a dyma Dafydd yn cynnal gwledd iddyn nhw. 21Dwedodd Abner wrth Dafydd, “Gad i mi fynd i gasglu Israel gyfan at fy meistr y brenin. Cân nhw wneud cytundeb gyda ti. Wedyn byddi’n frenin ar y cwbl roeddet ti wedi gobeithio amdano.” A dyma Dafydd yn gadael i Abner fynd yn heddychlon.
Joab yn dial ar Abner
22Yna dyma Joab a rhai o ddynion Dafydd yn cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi bod ar gyrch ac wedi dod â llawer o bethau yn ôl gyda nhw. (Doedd Abner ddim yn Hebron erbyn hynny, am fod Dafydd wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.) 23Pan ddaeth Joab a’i filwyr yn ôl, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda’r brenin, a’i fod wedi gadael iddo fynd yn heddychlon. 24Aeth Joab at y brenin a dweud, “Beth wyt ti’n wneud? Mae Abner wedi bod yma gyda ti, a ti wedi gadael iddo fynd! 25Ti’n gwybod sut un ydy Abner. Dod i ysbïo arnat ti oedd e! Ffeindio allan beth ydy dy symudiadau di, a beth wyt ti’n ei wneud!”
26Ar ôl gadael Dafydd dyma Joab yn anfon dynion gyda neges i alw Abner yn ôl, a daeth yn ôl gyda nhw o ffynnon Sira. (Doedd Dafydd yn gwybod dim am y peth.) 27Wrth i Abner gyrraedd Hebron dyma Joab yn mynd ag e o’r neilltu wrth y giât, fel petai am gael gair cyfrinachol gydag e. Ond yna dyma fe’n trywanu Abner yn ei fol gyda dagr, a’i ladd. Gwnaeth hyn i ddial arno am ladd ei frawd Asahel.
28Dim ond wedyn y clywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd. “Dw i a’m pobl yn ddieuog o flaen yr ARGLWYDD am ladd Abner fab Ner,” meddai. 29“Ar Joab mae’r bai. Caiff e a’i deulu dalu’r pris! Bydd rhywun o deulu Joab bob amser yn diodde o glefyd heintus ar ei bidyn, neu wahanglwyf, yn cerdded gyda baglau,#3:29 yn cerdded gyda baglau Neu, ar droellen – sef yn trin gwlân (oedd yn cael ei ystyried yn waith merch). wedi’i daro gan gleddyf, neu heb ddigon o fwyd!” 30(Felly, roedd Joab a’i frawd Abishai wedi llofruddio Abner am ei fod e wedi lladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.)#2 Samuel 2:12-23
31Dyma Dafydd yn dweud wrth Joab a phawb oedd gydag e, “Rhwygwch eich dillad, gwisgwch sachliain, a galaru o flaen corff Abner.” Cerddodd y Brenin Dafydd ei hun tu ôl i’r arch, 32a dyma nhw’n claddu Abner yn Hebron. Roedd y brenin yn crio’n uchel wrth fedd Abner, ac roedd pawb arall yn crio hefyd. 33Yna dyma’r brenin yn canu cân i alaru am Abner:
“Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl?
34Doeddet ddim wedi dy glymu;
doedd dy draed ddim mewn cyffion;
Ond syrthiaist fel dyn wedi’i ladd gan rai drwg.”
A dyma pawb yn wylo drosto eto.
35Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond roedd Dafydd wedi addo ar lw, “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i’r haul fachlud!” 36Roedd hynny wedi plesio pobl yn fawr. Yn wir roedd popeth roedd y brenin yn ei wneud yn eu plesio nhw. 37Roedd pawb, gan gynnwys pobl Israel, yn gweld fod gan y brenin ddim byd i’w wneud â llofruddio Abner fab Ner.
38Dwedodd y brenin wrth ei swyddogion, “Ydych chi’n sylweddoli fod arweinydd milwrol mawr wedi marw yn Israel heddiw? 39Er fy mod i wedi cael fy ngwneud yn frenin, dw i wedi bod yn ddi-asgwrn-cefn heddiw. Mae’r dynion yma, meibion Serwia,#3:39 Serwia Chwaer Dafydd – gw. 1 Cronicl 2:16. yn rhy wyllt i mi ddelio hefo nhw. Boed i’r ARGLWYDD dalu yn ôl i’r un sydd wedi gwneud y drwg yma!”

Currently Selected:

2 Samuel 3: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy