YouVersion Logo
Search Icon

2 Brenhinoedd 2

2
Duw yn cymryd Elias i’r nefoedd
1Roedd yr ARGLWYDD ar fin cymryd Elias i’r nefoedd mewn chwyrlwynt. Roedd Elias ac Eliseus yn gadael Gilgal, 2a dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae’r ARGLWYDD eisiau i mi fynd ymlaen i Bethel.#2:2 Taith o ryw 8 milltir.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau’n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw’n mynd i Bethel. 3Daeth aelodau o urdd proffwydi Bethel allan i gyfarfod Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti’n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i’n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.
4Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae’r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho.#2:4 Taith o ryw 12 milltir i’r de-ddwyrain o Bethel.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau’n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw’n dod i Jericho. 5Daeth aelodau o urdd proffwydi Jericho at Eliseus, a dweud wrtho, “Wyt ti’n gwybod fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat ti heddiw?” “Ydw, dw i’n gwybod, ond peidiwch sôn am y peth,” meddai Eliseus.
6Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae’r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at afon Iorddonen.#2:6 Taith o tua 3 milltir i’r dwyrain o Jericho.” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau’n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma’r ddau’n mynd yn eu blaenau. 7Roedd pum deg aelod o’r urdd o broffwydi wedi’u dilyn nhw, a phan oedd y ddau’n sefyll ar lan yr afon, roedd y proffwydi yn eu gwylio nhw o bell. 8Dyma Elias yn cymryd ei glogyn a’i rolio, a tharo’r dŵr gydag e. Dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a dyma’r ddau’n croesi drosodd ar dir sych. 9Yna ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl#2:9 siâr ddwbl Roedd Eliseus yn gofyn am gael etifeddu rôl broffwydol ei feistr Elias, gw. Deuteronomium 21:16,17. o dy ysbryd di,” meddai Eliseus. 10Atebodd Elias, “Ti wedi gofyn am rhywbeth anodd. Os byddi di’n fy ngweld i’n cael fy nghymryd i ffwrdd, fe’i cei. Os ddim, gei di ddim.”
11Yna wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau yn sgwrsio dyma gerbyd o fflamau tân yn cael ei dynnu gan geffylau o dân yn dod rhyngddyn nhw, a chipio Elias i fyny i’r nefoedd mewn chwyrlwynt. 12Gwelodd Eliseus e, a dyma fe’n gweiddi, “Fy nhad, fy nhad! Ti oedd arfau a byddin Israel!”#2:12 Ti oedd … Israel Hebraeg, “Cerbyd a marchogion Israel!”. Yna diflannodd o’i olwg. A dyma Eliseus yn gafael yn ei ddillad a’u rhwygo’n ddau. 13Dyma fe’n codi clogyn Elias, oedd wedi syrthio oddi arno, a mynd yn ôl at lan afon Iorddonen. 14Gafaelodd yn y clogyn oedd wedi syrthio oddi ar Elias, a gofyn, “Ydy’r ARGLWYDD, Duw Elias, wedi’n gadael hefyd?” Yna dyma fe’n taro’r dŵr gyda’r clogyn a dyma lwybr yn agor drwy’r afon, a chroesodd Eliseus i’r ochr arall.
15Pan welodd proffwydi Jericho beth ddigwyddodd, dyma nhw’n dweud, “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” A dyma nhw’n mynd ato a plygu i lawr o’i flaen, 16a dweud, “Edrych syr, mae gynnon ni bum deg o ddynion abl yma. Gad iddyn nhw fynd i chwilio am dy feistr, rhag ofn bod y gwynt cryf anfonodd yr ARGLWYDD wedi’i ollwng ar ben rhyw fynydd neu yn rhyw gwm.” Atebodd Eliseus, “Na, peidiwch a’u hanfon nhw.” 17Ond buon nhw’n pwyso arno nes iddo ddechrau teimlo’n annifyr. Felly yn y diwedd dyma fe’n cytuno, a dyma’r proffwydi’n anfon y dynion i chwilio am Elias. Buon nhw’n chwilio am dri diwrnod ond methu cael hyd iddo. 18Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?”
Eliseus yn gwneud gwyrthiau
19Dyma bobl y dre yn dweud wrth Eliseus, “Mae’r dre yma mewn safle da, fel ti’n gweld, syr. Ond mae’r dŵr yn wael a dydy’r cnydau ddim yn tyfu.” 20“Dewch â jar newydd i mi, a rhoi halen ynddo,” meddai Eliseus. Felly dyma nhw’n gwneud hynny, 21a dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu’r halen i mewn iddi; yna dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i’n puro’r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nac anffrwythlondeb byth eto.’” 22Ac mae’r dŵr yn bur hyd heddiw, yn union fel roedd Eliseus wedi dweud.
23Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o’r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw’n gweiddi, “Bacha hi,#2:23 Bacha hi Hebraeg, “Dos i fyny”, a allai fod yn rheg bygythiol. y moelyn! Bacha hi, y moelyn!” 24Dyma fe’n troi rownd a rhythu arnyn nhw, a galw ar yr ARGLWYDD i’w melltithio nhw. A dyma ddwy arth yn dod allan o’r goedwig a llarpio pedwar deg dau o’r bechgyn.
25Aeth Eliseus ymlaen i Fynydd Carmel, ac wedyn yn ôl i Samaria.

Currently Selected:

2 Brenhinoedd 2: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy