YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 7

7
Cysegru’r Deml
(1 Brenhinoedd 8:62-66)
1Wrth i Solomon orffen gweddïo, daeth tân i lawr o’r awyr a llosgi’r offrwm a’r aberthau. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi’r deml. 2Roedd yr offeiriaid yn methu mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD am fod ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei deml. 3Pan welodd pobl Israel y tân yn dod i lawr ac ysblander yr ARGLWYDD ar y deml, dyma nhw’n plygu ar eu gliniau a’u hwynebau ar y palmant. Roedden nhw’n addoli’r ARGLWYDD a diolch iddo drwy ddweud,
“Mae e mor dda aton ni;
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
4Roedd y brenin, a’r bobl i gyd, yn aberthu anifeiliaid i’r ARGLWYDD. 5Dyma’r brenin Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a chant dau ddeg mil o ddefaid. Dyna sut gwnaeth Solomon, a’r holl bobl, gyflwyno’r deml i Dduw. 6Roedd yr offeiriaid yn sefyll yn eu lle, gyda’r Lefiaid oedd yn canu’r offerynnau i foli’r ARGLWYDD. (Yr offerynnau oedd y Brenin Dafydd wedi’u gwneud a’u defnyddio ganddo i addoli a chanu, “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”) Gyferbyn â’r Lefiaid roedd yr offeiriaid yn canu’r utgyrn, tra oedd y dyrfa yn sefyll. 7Dyma Solomon yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i’w llosgi’n llwyr, a braster yr offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres wnaeth Solomon yn rhy fach i ddal yr holl offrymau. 8Bu Solomon, a phobl Israel i gyd yn dathlu a chadw Gŵyl am saith diwrnod. Roedd tyrfa fawr yno o bob rhan o’r wlad, o Fwlch Chamath yn y gogledd yr holl ffordd i Wadi’r Aifft yn y de.
9Yna ar yr wythfed diwrnod dyma nhw’n cynnal cyfarfod. Roedden nhw wedi cysegru’r allor am saith diwrnod a dathlu’r Ŵyl am saith diwrnod arall. 10Ar y trydydd ar hugain o’r seithfed mis dyma Solomon yn anfon y bobl adre. A dyma pawb yn gadael yn hapus ac ar ben eu digon am fod yr ARGLWYDD wedi bod mor dda i Dafydd a Solomon ac i’w bobl Israel.
Duw yn siarad â Solomon
(2 Brenhinoedd 9:1-9)
11Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD a phalas y brenin. Gwnaeth bopeth roedd wedi bod eisiau’i wneud i’r deml a’r palas. 12A dyma’r ARGLWYDD yn dod at Solomon yn y nos, a dweud wrtho, “Dw i wedi ateb dy weddi a dewis y lle yma yn deml lle mae aberthau i’w cyflwyno. 13Pan fydda i’n gwneud iddi stopio glawio, neu’n galw locustiaid i ddifa cnydau’r tir, neu’n taro fy mhobl gyda haint, 14os bydd fy mhobl, ie fy mhobl i, yn cyfaddef eu bai, gweddïo arna i a’m ceisio i a stopio gwneud pethau drwg, yna bydda i’n gwrando o’r nefoedd; bydda i’n maddau eu pechod ac yn iacháu eu gwlad.
15“Bydda i’n gwrando ar y gweddïau sy’n cael eu cyflwyno yn y lle yma. 16Dw i wedi dewis a chysegru’r deml yma i fod yn gartref i mi am byth. Bydda i’n gofalu am y lle bob amser.
17“Dw i eisiau i ti fyw fel gwnaeth dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i’n ddweud – bod yn ufudd i’r rheolau a’r canllawiau dw i wedi’u rhoi. 18Yna bydda i’n gwneud i dy deulu di deyrnasu fel gwnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd yn teyrnasu ar Israel am byth.’
19“Ond os byddwch chi’n troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a’r rheolau dw i wedi’u rhoi i chi; os byddwch chi’n addoli duwiau eraill, 20yna bydda i’n eu chwynnu nhw o’r tir dw i wedi’i roi iddyn nhw. Bydda i’n troi cefn ar y deml yma dw i wedi chysegru i mi fy hun. A bydda i’n eich gwneud chi’n destun sbort ac yn jôc i bawb. 21Ie, y deml yma hefyd, oedd yn adeilad mor wych – bydd pawb sy’n mynd heibio yn rhyfeddu ac yn gofyn, ‘Pam mae’r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i’r wlad ac i’r deml yma?’ 22A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i’w dilyn a’u haddoli. Dyna pam mae’r ARGLWYDD wedi gadael i’r dinistr yma ddigwydd.’”

Currently Selected:

2 Cronicl 7: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy