YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 5

5
1Wedi i Solomon orffen adeiladu’r deml i’r ARGLWYDD, dyma fe’n dod â’r holl bethau roedd ei dad Dafydd wedi’u cysegru i Dduw (arian, aur a chelfi eraill), a’u rhoi yn stordai teml Dduw.
Symud yr Arch i’r deml
(1 Brenhinoedd 8:1-9)
2Yna dyma Solomon yn galw arweinwyr Israel (pennaeth pob llwyth a phob teulu) ato i Jerwsalem. Roedd Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i gael ei symud o Ddinas Dafydd (sef Seion) i’w chartref newydd yn y deml. 3Roedd pobl Israel i gyd wedi dod at y brenin adeg Gŵyl y Pebyll yn y seithfed mis.#5:3 seithfed mis Ethanim, seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref.
4Wedi i’r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma’r seremoni yn dechrau. Dyma’r Lefiaid yn codi’r Arch. 5Yna dyma’r offeiriaid a’r Lefiaid yn cario Arch Duw, pabell presenoldeb Duw a’r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell. 6Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi’n amhosibl eu cyfri i gyd!
7Dyma’r offeiriaid yn mynd ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn i’r deml a’i gosod yn ei lle yn y gell fewnol, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y cerwbiaid. 8Roedd adenydd y cerwbiaid wedi’u lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi’r Arch a’i pholion. 9Ond roedd y polion mor hir, roedd hi’n bosibl gweld eu pennau nhw o’r ystafell o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i’w gweld o’r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw. 10Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen roedd Moses wedi’u rhoi ynddi yn Sinai,#5:10 Sinai Hebraeg, “Horeb”, sef enw arall ar Fynydd Sinai. sef llechi’r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi’i wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o’r Aifft.
11Dyma’r offeiriaid yn dod allan o’r Lle Sanctaidd. Roedd pob un ohonyn nhw, o bob grŵp, wedi cysegru eu hunain. 12Roedd yr holl Lefiaid oedd yn gerddorion – Asaff, Heman a Iedwthwn, gyda’u meibion a’u brodyr – yn gwisgo dillad o liain main gwyn. Roedden nhw’n sefyll i’r dwyrain o’r allor yn canu eu symbalau, nablau a thelynau. Wrth eu hymyl roedd cant dau ddeg o offeiriaid yn canu utgyrn. 13Roedd y cerddorion a’r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda’i gilydd i roi mawl a diolch i’r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a’r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli’r ARGLWYDD a chanu’r geiriau,
“Mae e mor dda aton ni;
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
Tra oedden nhw’n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi’r deml. 14Doedd yr offeiriaid ddim yn gallu cario ymlaen gyda’i gwaith o achos y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi Teml Dduw.

Currently Selected:

2 Cronicl 5: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy