YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 31

31
Diwygiadau Crefyddol Heseceia
1Pan oedd yr Ŵyl drosodd, dyma’r holl bobl oedd wedi bod yn bresennol yn mynd allan i drefi Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse a malu’r colofnau cysegredig, torri i lawr bolion y dduwies Ashera a chwalu’r allorau lleol drwy holl Jwda. Wedyn dyma nhw i gyd yn mynd adre i’w trefi eu hunain.
2Dyma Heseceia’n gosod yr offeiriaid a’r Lefiaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu dyletswyddau – sef cyflwyno’r offrymau i’w llosgi a’r offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, ac i weini, rhoi diolch a chanu mawl wrth y giatiau i deml yr ARGLWYDD.
3Roedd y brenin yn rhoi cyfran o’i anifeiliaid ei hun yn offrymau i’w llosgi’n llwyr bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill wedi’u pennu yn y Gyfraith. 4Yna dyma fe’n gorchymyn i’r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem i gyfrannu siâr yr offeiriaid a’r Lefiaid fel roedd Cyfraith yr ARGLWYDD yn dweud. 5Pan glywodd pobl Israel hyn dyma nhw’n ymateb drwy ddod â’r gyfran gyntaf o’r ŷd, sudd grawnwin, olew olewydd, mêl a phopeth arall oedd yn tyfu yn eu caeau. Daethon nhw â lot fawr o stwff – un rhan o ddeg o bopeth. 6Roedd pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn nhrefi Jwda hefyd yn cyfrannu un o bob deg o’u teirw a’u defaid, a phopeth arall roedden nhw wedi’i osod o’r neilltu i’w roi i’r ARGLWYDD. Cafodd y cwbl ei osod yn bentyrrau. 7Dechreuodd y pentyrru yn y trydydd mis, ac roedd hi’r seithfed mis erbyn iddyn nhw orffen. 8Pan welodd Heseceia a’i swyddogion yr holl bentyrrau, dyma nhw’n bendithio’r ARGLWYDD a’i bobl Israel.
9Yna dyma Heseceia’n holi’r offeiriaid a’r Lefiaid am y pentyrrau. 10A dyma Asareia yr archoffeiriad, oedd o deulu Sadoc, yn dweud “Ers i’r bobl ddechrau dod â rhoddion i’r deml dŷn ni wedi cael digonedd i’w fwyta, ac mae lot fawr dros ben. Mae’r ARGLWYDD wedi bendithio’i bobl, ac mae yna gymaint o stwff dros ben.” 11Felly dyma Heseceia’n gorchymyn iddyn nhw baratoi stordai yn nheml yr ARGLWYDD. Dyma nhw’n gwneud felly, 12a dod â’r offrymau, y degymau, a’r pethau oedd wedi’u cysegru i’r ARGLWYDD. Un o’r Lefiaid, Conaneia, oedd yn gyfrifol am y gwaith, a’i frawd Shimei yn ddirprwy iddo. 13Yna dyma’r Brenin Heseceia ac Asareia, pennaeth y deml, yn trefnu i Iechiel, Asaseia, Nachath, Asahel, Ierimoth, Iosafad, Eliel, Ismacheia, Machat a Benaia i weithio oddi tanyn nhw.
14Core fab Imna, Lefiad oedd yn gwarchod y giât ddwyreiniol, oedd yn gyfrifol am yr offrymau gwirfoddol. Fe hefyd oedd i ddosbarthu’r rhoddion oedd wedi’u cyflwyno i’r ARGLWYDD, a’r eitemau wedi’u cysegru. 15Wedyn roedd Eden, Miniamîn, Ieshŵa, Shemaia, Amareia a Shechaneia yn ei helpu yn nhrefi’r offeiriad. Roedden nhw i fod i rannu’r rhoddion yn deg rhwng y gwahanol deuluoedd o offeiriaid, ifanc a hen fel ei gilydd. 16Roedd pob gwryw oedd dros dair oed ar y cofrestrau teuluol i dderbyn rhoddion – y rhai fyddai yn eu tro yn mynd i deml yr ARGLWYDD i gyflawni dyletswyddau’r grŵp roedden nhw’n perthyn iddi. 17Hefyd yr offeiriaid oedd wedi’u rhestru yn y cofrestrau teuluol, a’r Lefiaid oedd dros ugain oed ac wedi’u rhestru yn ôl eu dyletswyddau a’u grwpiau. 18A’r plant lleiaf hefyd, y gwragedd, a’r meibion a’r merched i gyd – pawb oedd ar y cofrestrau teuluol. Roedden nhw i gyd wedi bod yn ffyddlon a chysegru eu hunain. 19Wedyn roedd rhai wedi cael eu dewis ym mhob tref i rannu eu siâr i ddisgynyddion Aaron, sef yr offeiriad oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas pob tref. Roedd pob gwryw o deulu offeiriadol a phob un o’r Lefiaid oedd ar y cofrestrau teuluol i gael eu siâr.
20Trefnodd y Brenin Heseceia fod hyn i ddigwydd drwy Jwda gyfan. Gwnaeth beth oedd yn dda; gwnaeth y peth iawn; ac roedd yn ffyddlon yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. 21Aeth ati o ddifrif i ailsefydlu gwasanaeth teml Dduw ac i fod yn ufudd i’r Gyfraith a dilyn ei Dduw. Ac fe lwyddodd.

Currently Selected:

2 Cronicl 31: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy