YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 23

23
Gwrthryfel yn erbyn Athaleia
(2 Brenhinoedd 11:4-16)
1Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn mentro gweithredu. Dyma fe’n gwneud cytundeb gyda’r swyddogion milwrol oedd yn arwain unedau o gannoedd: Asareia fab Ierocham, Ishmael fab Iehochanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elishaffat fab Sichri. 2Dyma’r dynion yma yn teithio o gwmpas Jwda ac yn casglu’r Lefiaid i gyd o’r trefi ac arweinwyr claniau Israel. A dyma nhw i gyd yn mynd i Jerwsalem. 3Dyma’r gynulleidfa yn ymrwymo yn y deml i fod yn ffyddlon i’r brenin. A dyma Jehoiada yn datgan, “Dyma fab y brenin! Bydd e’n teyrnasu fel dwedodd yr ARGLWYDD am ddisgynyddion Dafydd. 4Dyma dych chi i’w wneud: Bydd un rhan o dair ohonoch chi offeiriaid a Lefiaid sydd ar ddyletswydd ar y Saboth yn gwarchod y drysau. 5Bydd un rhan o dair yn gwarchod y palas, ac un rhan o dair wrth Giât y Sylfaen. Bydd pawb arall yn mynd i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. 6Does neb i fynd i mewn i deml yr ARGLWYDD ond yr offeiriad a’r Lefiaid sydd ar ddyletswydd. Gallan nhw fynd i mewn am eu bod yn lân yn seremonïol. Rhaid i bawb arall wneud fel mae’r ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw. 7Rhaid i’r Lefiaid sefyll o gwmpas y brenin gydag arfau yn eu dwylo. Os bydd unrhyw un yn dod i mewn i’r deml, rhaid ei ladd. Bydd y Lefiaid gyda’r brenin ble bynnag mae’n mynd.”
8Dyma’r Lefiaid a phobl Jwda yn gwneud yn union fel roedd Jehoiada’r offeiriad wedi dweud. Dyma pob un yn cymryd ei uned – y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth a’r rhai oedd yn rhydd (Wnaeth Jehoiada ddim eu rhyddhau nhw o’u dyletswydd.) 9A dyma Jehoiada’r offeiriad yn rhoi gwaywffyn a tharianau bach a mawr i’r capteniaid, sef arfau y Brenin Dafydd oedd yn cael eu cadw yn nheml yr ARGLWYDD. 10Yna dyma fe’n eu gosod yn eu lle i warchod y brenin, gyda’u harfau yn eu dwylo. Roedden nhw’n sefyll mewn llinell o un ochr y deml i’r llall, wrth yr allor ac ym mhob rhan o’r deml, i amddiffyn y brenin. 11Wedyn dyma Jehoiada a’i feibion yn dod â mab y brenin allan, a rhoi’r goron ar ei ben a chopi o’r rheolau sy’n dweud sut i lywodraethu. A dyma nhw’n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio drwy dywallt olew ar ei ben, a gweiddi, “Hir oes i’r brenin!”
12Dyma Athaleia’n clywed sŵn y cyffro a’r bobl yn canmol y brenin, a dyma hi’n mynd atyn nhw i’r deml. 13Yno dyma hi’n gweld y brenin yn sefyll wrth y piler wrth y fynedfa. Roedd y capteiniaid a’r trwmpedwyr o’i gwmpas, y bobl i gyd yn dathlu, yr utgyrn yn canu ffanffer a’r cerddorion gyda’u hofferynnau yn arwain y dathlu.
Pan welodd hyn i gyd, dyma hi’n rhwygo’i dillad a sgrechian gweiddi, “Brad! Brad!”
14Yna dyma Jehoiada’r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw, “Ewch â hi allan o’r deml heibio’r rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi. Rhaid peidio ei lladd yn y deml.” 15Felly dyma nhw’n ei harestio hi a mynd â hi i’r palas brenhinol drwy’r fynedfa i’r stablau. A dyna lle cafodd hi ei lladd.
Jehoiada’r offeiriad yn newid pethau
(2 Brenhinoedd 11:17-20)
16Dyma Jehoiada yn selio’r ymrwymiad rhyngddo’i hun, y bobl, a’r brenin, iddyn nhw fod yn bobl ffyddlon i’r ARGLWYDD.
17Yna aeth y dyrfa i gyd i mewn i deml Baal a’i dinistrio. Dyma nhw’n chwalu’r allorau a malu’r delwau i gyd yn ddarnau mân, a chafodd Mattan, offeiriad Baal, ei ladd o flaen yr allorau.
18Roedd Jehoiada wedi gosod gwarchodlu i wylio teml yr ARGLWYDD, a rhoi eu cyfrifoldebau i’r offeiriaid o lwyth Lefi, fel roedd Dafydd wedi trefnu. Nhw oedd yn gyfrifol am yr aberthau oedd i’w llosgi i’r ARGLWYDD, fel mae cyfraith Moses yn dweud, a hefyd y dathlu a’r gerddoriaeth, fel roedd Dafydd wedi trefnu. 19Gosododd ofalwyr i wylio giatiau teml yr ARGLWYDD, i wneud yn siŵr fod neb oedd yn aflan mewn rhyw ffordd yn gallu mynd i mewn.
20Yna dyma fe’n galw capteniaid yr unedau o gannoedd, yr arweinwyr, a’r swyddogion. A dyma’r dyrfa gyfan yn eu dilyn nhw ac yn arwain y brenin mewn prosesiwn, o’r deml i’r palas drwy’r Giât Uchaf. A dyma nhw’n gosod y brenin i eistedd ar yr orsedd. 21Roedd pawb drwy’r wlad i gyd yn dathlu. Roedd y ddinas yn heddychlon eto, ac Athaleia wedi cael ei lladd.

Currently Selected:

2 Cronicl 23: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy