YouVersion Logo
Search Icon

Obadeia 1

1
1Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi. 2Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
3Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr? 4Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd. 5Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn? 6Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef! 7Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo. 8Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau? 9Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.
10Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth. 11Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt. 12Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd. 13Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt: 14Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd. 15Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun. 16Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent.
17Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt. 18Yna y bydd tŷ Jacob yn dân, a thŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr Arglwydd a’i dywedodd. 19Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau, a gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead; 20A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau. 21A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd.

Currently Selected:

Obadeia 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy