YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 8

8
1A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd: 2Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml; a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt. 3A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol, 4Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. 5A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd? 6A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed. 7Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi. 8Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear. 9Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. 10A’r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di? 11Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.
12Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd. 13Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir. 14Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned. 15Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb. 16Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 17Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn. 18Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi. 19Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na’m Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd. 20Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto. 21Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 22Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 23Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn. 24Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. 25Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad. 26Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd. 27Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy. 28Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn. 29A’r hwn a’m hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef. 30Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef. 31Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir; 32A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi.
33Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? 34Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod. 35Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth. 36Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir. 37Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi. 38Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau. 39Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. 40Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham. 41Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw. 42Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i. 43Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. 44O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. 45Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. 46Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi? 47Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw. 48Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul? 49Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau. 50Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn. 51Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd. 52Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a’r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd. 53Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a’r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun? 54Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw. 55Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. 56Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. 57Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham? 58Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi. 59Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef. A’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.

Currently Selected:

Ioan 8: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy