YouVersion Logo
Search Icon

Habacuc 1

1
1Y baich a welodd y proffwyd Habacuc. 2Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi! 3Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson. 4Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.
5Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi. 6Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt. 7Y maent i’w hofni ac i’w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth. 8A’u meirch sydd fuanach na’r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a’u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd. 9Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod. 10A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a’i goresgynnant. 11Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i’w dduw ei hun.
12Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O Arglwydd fy Nuw, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O Arglwydd, ti a’u gosodaist hwy i farn, ac a’u sicrheaist, O Dduw, i gosbedigaeth. 13Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun? 14Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt? 15Cyfodant hwynt oll â’r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant. 16Am hynny yr aberthant i’w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i’w ballegrwyd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a’u bwyd yn fras. 17A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?

Currently Selected:

Habacuc 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy