YouVersion Logo
Search Icon

Esther 1

1
1Yn nyddiau Ahasferus, (efe yw Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia, sef ar gant a saith ar hugain o daleithiau;) 2Yn y dyddiau hynny, pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth, yr hon oedd yn Susan y brenhinllys, 3Yn y drydedd flwyddyn o’i deyrnasiad, efe a wnaeth wledd i’w holl dywysogion a’i weision; cadernid Persia, a Media, y rhaglawiaid, a thywysogion y taleithiau, oedd ger ei fron ef: 4Fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd, ddyddiau lawer, sef cant a phedwar ugain o ddyddiau. 5Ac wedi gorffen y dyddiau hynny, y brenin a wnaeth i’r holl bobl a gafwyd yn Susan y brenhinllys, o’r mwyaf hyd y lleiaf, wledd dros saith niwrnod, yng nghyntedd gardd palas y brenin: 6Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct. 7Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur, a chyfnewid amryw lestri, a gwin brenhinol lawer, yn ôl gallu y brenin. 8Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod, nid oedd neb yn cymell: canys gosodasai y brenin orchymyn ar bob swyddwr o fewn ei dŷ, ar wneuthur yn ôl ewyllys pawb. 9Y frenhines Fasti hefyd a wnaeth wledd i’r gwragedd yn y brenhindy oedd eiddo Ahasferus y brenin.
10Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus, 11Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin, yn y frenhinol goron, i ddangos i’r bobloedd ac i’r tywysogion ei glendid hi: canys glân yr olwg ydoedd hi. 12Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a’i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo.
13Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau, (canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn: 14A nesaf ato ef oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth;) 15Beth sydd i’w wneuthur wrth y gyfraith i’r frenhines Fasti, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion? 16Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a’r tywysogion, Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai, ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd, a’r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus. 17Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd, fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun, pan ddywedant, Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o’i flaen; ond ni ddaeth hi. 18Arglwyddesau Persia a Media, y rhai a glywsant weithred y frenhines, a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin. Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter. 19Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef, ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a’r Mediaid, fel na throsedder ef, na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i’w chyfeilles yr hon sydd well na hi. 20A phan glywer gorchymyn y brenin, yr hwn a wnelo efe, trwy ei holl frenhiniaeth, (yr hon sydd fawr,) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i’w gwŷr, o’r mwyaf hyd y lleiaf. 21A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a’r tywysogion; a’r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan: 22Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, ie, i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.

Currently Selected:

Esther 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy