YouVersion Logo
Search Icon

Haggai 1

1
1Yn yr ail flwyddyn i’r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd, 2Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr Arglwydd. 3Yna y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, 4Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a’r tŷ hwn yn anghyfannedd? 5Fel hyn gan hynny yn awr y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. 6Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a’r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
7Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd. 8Esgynnwch i’r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y’m gogoneddir, medd yr Arglwydd. 9Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd Arglwydd y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i’w dŷ ei hun. 10Am hynny gwaharddwyd i’r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i’r ddaear roddi ei ffrwyth. 11Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.
12Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr Arglwydd eu Duw, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a’r bobl a ofnasant gerbron yr Arglwydd. 13Yna Haggai cennad yr Arglwydd a lefarodd trwy genadwri yr Arglwydd wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr Arglwydd. 14Felly y cynhyrfodd yr Arglwydd ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl; a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ Arglwydd y lluoedd eu Duw hwynt, 15Y pedwerydd dydd ar hugain o’r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.

Currently Selected:

Haggai 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy