YouVersion Logo
Search Icon

Galatiaid 5

5
1Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed. 2Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi. 3Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf. 4Chwi a aethoch yn ddi-fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras. 5Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder. 6Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad. 7Chwi a redasoch yn dda; pwy a’ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd? 8Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi. 9Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does. 10Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. 11A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y’m herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes. 12Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch. 13Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd. 14Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun. 15Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd. 16Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. 17Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. 18Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. 19Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, 20Delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, 21Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. 22Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: 23Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. 24A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. 25Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. 26Na fyddwn wag-ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.

Currently Selected:

Galatiaid 5: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy