YouVersion Logo
Search Icon

2 Corinthiaid 1

1
1Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, gyda’r holl seintiau y rhai sydd yn holl Achaia: 2Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch; 4Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy’r diddanwch â’r hwn y’n diddenir ni ein hunain gan Dduw. 5Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau. 6A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny. 7Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r diddanwch. 8Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd. 9Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw: 10Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw: 11A chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer drosom. 12Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi. 13Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darllen, neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd; 14Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu. 15Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o’r blaen, fel y caffech ail ras; 16A myned heb eich llaw chwi i Facedonia, a dyfod drachefn o Facedonia atoch, a chael fy hebrwng gennych i Jwdea. 17Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi, ie, ie, a nage, nage? 18Eithr ffyddlon yw Duw, a’n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage. 19Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennyf fi, a Silfanus, a Thimotheus, nid ydoedd ie, a nage, eithr ynddo ef ie ydoedd. 20Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie, ac ynddo ef amen, er gogoniant i Dduw trwom ni. 21A’r hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyda chwi yng Nghrist, ac a’n heneiniodd ni, yw Duw: 22Yr hwn hefyd a’n seliodd, ac a roes ernes yr Ysbryd yn ein calonnau. 23Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi na ddeuthum eto i Gorinth. 24Nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwyr i’ch llawenydd: oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll.

Currently Selected:

2 Corinthiaid 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy