YouVersion Logo
Search Icon

Philemon 1

1
Cyfarch
1Paul, carcharor Crist Iesu, a Timotheus ein brawd, at Philemon, ein cydweithiwr annwyl, 2ac Apffia, ein chwaer, ac Archipus, ein cydfilwr; ac at yr eglwys sy'n ymgynnull yn dy dŷ. 3Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
Cariad a Ffydd Philemon
4Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser wrth gofio amdanat yn fy ngweddïau, 5oherwydd fy mod yn clywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint. 6Yr wyf yn deisyf y bydd y ffydd, sy'n gyffredin i ti a ninnau, yn gyfrwng effeithiol i ddyfnhau dealltwriaeth o'r holl ddaioni sy'n eiddo i ni yng Nghrist. 7Oherwydd cefais lawer o lawenydd a symbyliad trwy dy gariad, gan fod calonnau'r saint wedi eu llonni drwot ti, fy mrawd.
Paul yn Eiriol dros Onesimus
8Gan hynny, er bod gennyf berffaith ryddid yng Nghrist i roi gorchymyn i ti ynglŷn â'th ddyletswydd, 9yr wyf yn hytrach, ar sail cariad, yn apelio atat. Ie, myfi, Paul, a mi'n llysgennad Crist Iesu, ac yn awr hefyd yn garcharor drosto, 10apelio yr wyf atat ar ran fy mhlentyn, Onesimus, un y deuthum yn dad iddo yn y carchar. 11Bu ef gynt yn ddi-fudd i ti, ond yn awr y mae'n fuddiol iawn i ti ac i minnau.#1:11 Ystyr yr enw Onesimus yw buddiol. 12Yr wyf yn ei anfon yn ôl atat, ac yntau bellach yn rhan ohonof fi. 13Mi hoffwn ei gadw gyda mi, er mwyn iddo weini arnaf yn dy le di tra byddaf yng ngharchar o achos yr Efengyl. 14Ond ni fynnwn wneud dim heb dy gydsyniad di, rhag i'th garedigrwydd fod o orfod, nid o wirfodd. 15Efallai, yn wir, mai dyma'r rheswm iddo gael ei wahanu oddi wrthyt dros dro, er mwyn iti ei dderbyn yn ôl am byth, 16nid fel caethwas mwyach ond fel un sy'n fwy na chaethwas, yn frawd annwyl—annwyl iawn i mi, ond anwylach fyth i ti, fel dyn ac fel Cristion.
17Os wyt, felly, yn fy ystyried i yn gymar, derbyn ef fel pe bait yn fy nerbyn i. 18Os gwnaeth unrhyw gam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf fi. 19Yr wyf fi, Paul, yn ysgrifennu â'm llaw fy hun: fe dalaf fi yn ôl, a hynny heb sôn dy fod ti'n ddyledus i mi hyd yn oed amdanat dy hun. 20Ie, frawd, mi fynnwn gael ffafr gennyt ti yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.
21Yr wyf yn ysgrifennu atat mewn sicrwydd y byddi'n ufuddhau; gwn y byddi'n gwneud mwy nag yr wyf yn ei ofyn. 22Yr un pryd hefyd, paratoa lety imi, oherwydd rwy'n gobeithio y caf fy rhoi i chwi mewn ateb i'ch gweddïau.
Cyfarchion Terfynol
23Y mae Epaffras, fy nghydgarcharor yng Nghrist Iesu, yn dy gyfarch; 24a Marc, Aristarchus, Demas a Luc, fy nghydweithwyr. 25Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd chwi!

Currently Selected:

Philemon 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy