YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 1

1
Cyfrifiad Cyntaf Israel
1Ar y dydd cyntaf o'r ail fis yn yr ail flwyddyn wedi i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mhabell y cyfarfod yn anialwch Sinai, a dweud, 2“Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, gan restru enw pob gwryw fesul un. 3Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 4Gyda chwi bydd un dyn o bob llwyth, sef y penteulu. 5Dyma enwau'r dynion a fydd gyda chwi. O Reuben: Elisur fab Sedeur; 6o Simeon: Selumiel fab Surisadai; 7o Jwda: Nahson fab Amminadab; 8o Issachar: Nethanel fab Suar; 9o Sabulon: Eliab fab Helon. 10O feibion Joseff: o Effraim, Elisama fab Ammihud, ac o Manasse, Gamaliel fab Pedasur; 11o Benjamin: Abidan fab Gideoni; 12o Dan: Ahieser fab Ammisadai; 13o Aser: Pagiel fab Ocran; 14o Gad: Eliasaff fab Reuel#1:14 Felly Fersiynau. Cymh. 2:14. Hebraeg, Deuel.; 15o Nafftali: Ahira fab Enan.” 16Dyma'r rhai a ddewiswyd o'r cynulliad yn arweinwyr llwythau eu hynafiaid ac yn benaethiaid ar dylwythau Israel.
17Cymerodd Moses ac Aaron y dynion hyn y rhoddwyd eu henwau, 18ac ar y dydd cyntaf o'r ail fis casglwyd ynghyd yr holl gynulliad. Rhestrwyd y bobl yn ôl eu tylwythau a'u teuluoedd, a rhifwyd fesul un bawb oedd yn ugain oed a throsodd. 19Felly, cyfrifodd Moses hwy yn anialwch Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
20O dylwyth Reuben, cyntafanedig Israel, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 21Nifer llwyth Reuben oedd pedwar deg chwech o filoedd a phum cant.
22O dylwyth Simeon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 23Nifer llwyth Simeon oedd pum deg naw o filoedd a thri chant.
24O dylwyth Gad, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 25Nifer llwyth Gad oedd pedwar deg pump o filoedd chwe chant a phum deg.
26O dylwyth Jwda, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 27Nifer llwyth Jwda oedd saith deg pedair o filoedd a chwe chant.
28O dylwyth Issachar, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 29Nifer llwyth Issachar oedd pum deg pedair o filoedd a phedwar cant.
30O dylwyth Sabulon, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 31Nifer llwyth Sabulon oedd pum deg saith o filoedd a phedwar cant.
32O dylwyth Joseff, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 33Nifer llwyth Effraim oedd pedwar deg o filoedd a phum cant.
34O dylwyth Manasse, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 35Nifer llwyth Manasse oedd tri deg dwy o filoedd a dau gant.
36O dylwyth Benjamin, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 37Nifer llwyth Benjamin oedd tri deg pump o filoedd a phedwar cant.
38O dylwyth Dan, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 39Nifer llwyth Dan oedd chwe deg dwy o filoedd a saith gant.
40O dylwyth Aser, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 41Nifer llwyth Aser oedd pedwar deg un o filoedd a phum cant.
42O dylwyth Nafftali, rhestrwyd fesul un, yn ôl cenedlaethau eu tylwythau a'u teuluoedd, enw pob gwryw ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel. 43Nifer llwyth Nafftali oedd pum deg tair o filoedd a phedwar cant.
44Dyma'r rhai a gyfrifwyd gan Moses ac Aaron gyda chymorth arweinwyr Israel, deuddeg ohonynt, pob un yn cynrychioli tŷ ei hynafiaid. 45Gwnaed cyfrif o bobl Israel, yn ôl eu teuluoedd, gan gynnwys pawb oedd yn ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel; 46y cyfanswm oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg.
47Ond ni rifwyd y Lefiaid yn ôl llwythau eu hynafiaid ymysg pobl Israel, 48oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, 49“Paid â chyfrif llwyth Lefi, na'u cynnwys mewn cyfrifiad o bobl Israel; 50ond penoda'r Lefiaid i ofalu am babell y dystiolaeth, ei holl ddodrefn, a phopeth a berthyn iddi. Hwy sydd i gludo'r babell a'i holl ddodrefn, a hwy sydd i ofalu amdani a gwersyllu o'i hamgylch. 51Pan fydd yn amser symud y babell, y Lefiaid fydd yn ei thynnu i lawr; a phan fydd yn amser i aros, y Lefiaid fydd yn ei chodi. Rhodder i farwolaeth unrhyw un arall a ddaw ar ei chyfyl. 52Bydd pobl Israel yn gwersyllu yn ôl eu minteioedd, pob un yn ei wersyll ei hun a than ei faner ei hun. 53Ond bydd y Lefiaid yn gwersyllu o amgylch pabell y dystiolaeth, rhag i ddigofaint ddod yn erbyn cynulliad pobl Israel; bydd pabell y dystiolaeth dan ofal y Lefiaid.” 54Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.

Currently Selected:

Numeri 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy