1
Daeth y Gair yn Gnawd
1Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. 2Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. 3Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. 4Ynddo ef yr oedd bywyd,#1:4 Neu, ni ddaeth un dim i fod. Yr hyn a ddaeth i fod, ynddo ef bywyd ydoedd. a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd. 5Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu#1:5 Neu, ei amgyffred. ef.
6Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan. 7Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo. 8Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni. 9Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.#1:9 Neu, Ef oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb sy'n dod i'r byd. 10Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono. 11Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. 12Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, 13plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw.
14A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.#1:14 Neu, yn ein plith; gwelsom… y Tad, yn llawn gras a gwirionedd. 15Y mae Ioan yn tystio amdano ac yn cyhoeddi: “Hwn oedd yr un y dywedais amdano, ‘Y mae'r hwn sy'n dod ar f'ôl i wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’ ” 16O'i gyflawnder ef yr ydym ni oll wedi derbyn gras ar ben gras. 17Oherwydd trwy Moses y rhoddwyd y Gyfraith, ond gras a gwirionedd, trwy Iesu Grist y daethant. 18Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; yr unig Un, ac yntau'n Dduw#1:18 Yn ôl darlleniad arall, yr unig Fab., yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a'i gwnaeth yn hysbys.
Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr
Mth. 3:1–12; Mc. 1:2–8; Lc. 3:1–9, 15–17
19Dyma dystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid ato i ofyn iddo, “Pwy wyt ti?” 20Addefodd ac ni wadodd, a dyma a addefodd: “Nid myfi yw'r Meseia.” 21Yna gofynasant iddo: “Beth, ynteu? Ai ti yw Elias?” “Nage,” meddai. “Ai ti yw'r Proffwyd?” “Nage,” atebodd eto. 22Ar hynny dywedasant wrtho, “Pwy wyt ti? Rhaid i ni roi ateb i'r rhai a'n hanfonodd ni. Beth sydd gennyt i'w ddweud amdanat dy hun?” 23“Myfi,” meddai, “yw
“ ‘Llais un yn galw yn yr anialwch:
“Unionwch ffordd yr Arglwydd” ’—
“fel y dywedodd y proffwyd Eseia.” 24Yr oeddent wedi eu hanfon gan y Phariseaid, 25a holasant ef a gofyn iddo, “Pam, ynteu, yr wyt yn bedyddio, os nad wyt ti na'r Meseia nac Elias na'r Proffwyd?” 26Atebodd Ioan hwy: “Yr wyf fi'n bedyddio â dŵr, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chwi'n ei adnabod, 27yr un sy'n dod ar f'ôl i, nad wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandal.” 28Digwyddodd hyn ym Methania#1:28 Yn ôl darlleniad arall, yn Bethabara., y tu hwnt i'r Iorddonen, lle'r oedd Ioan yn bedyddio.
Dyma Oen Duw
29Trannoeth gwelodd Iesu'n dod tuag ato, a dywedodd, “Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd! 30Hwn yw'r un y dywedais i amdano, ‘Ar f'ôl i y mae gŵr yn dod sydd wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’ 31Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond deuthum i yn bedyddio â dŵr er mwyn hyn, iddo ef gael ei amlygu i Israel.” 32A thystiodd Ioan fel hyn: “Gwelais yr Ysbryd yn disgyn o'r nef fel colomen, ac fe arhosodd arno ef. 33Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond yr un a'm hanfonodd i fedyddio â dŵr, dywedodd ef wrthyf, ‘Pwy bynnag y gweli di'r Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwn yw'r un sy'n bedyddio â'r Ysbryd Glân.’ 34Yr wyf finnau wedi gweld ac wedi dwyn tystiolaeth mai Mab#1:34 Yn ôl darlleniad arall, Etholedig. Duw yw hwn.”
Y Disgyblion Cyntaf
35Trannoeth yr oedd Ioan yn sefyll eto gyda dau o'i ddisgyblion, 36ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, “Dyma Oen Duw!” 37Clywodd ei ddau ddisgybl ef yn dweud hyn, ac aethant i ganlyn Iesu. 38Troes Iesu, ac wrth eu gweld yn canlyn, dywedodd wrthynt, “Beth yr ydych yn ei geisio?” Dywedasant wrtho, “Rabbi,” (ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Athro) “ble'r wyt ti'n aros?” 39Dywedodd wrthynt, “Dewch i weld.” Felly aethant a gweld lle'r oedd yn aros; a'r diwrnod hwnnw arosasant gydag ef. Yr oedd hi tua phedwar o'r gloch y prynhawn. 40Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a aeth i ganlyn Iesu ar ôl gwrando ar Ioan. 41Y peth cyntaf a wnaeth hwn oedd cael hyd i'w frawd, Simon, a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y Meseia” (hynny yw, o'i gyfieithu, Crist). 42Daeth ag ef at Iesu. Edrychodd Iesu arno a dywedodd, “Ti yw Simon fab Ioan; dy enw fydd Ceffas” (enw a gyfieithir Pedr).
Galw Philip a Nathanael
43Trannoeth, penderfynodd Iesu ymadael a mynd i Galilea. Cafodd hyd i Philip, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.” 44Gŵr o Bethsaida, tref Andreas a Pedr, oedd Philip. 45Cafodd Philip hyd i Nathanael a dweud wrtho, “Yr ydym wedi darganfod y gŵr yr ysgrifennodd Moses yn y Gyfraith amdano, a'r proffwydi hefyd, Iesu fab Joseff o Nasareth.” 46Dywedodd Nathanael wrtho, “A all dim da ddod o Nasareth?” “Tyrd i weld,” ebe Philip wrtho. 47Gwelodd Iesu Nathanael yn dod tuag ato, ac meddai amdano, “Dyma Israeliad gwerth yr enw, heb ddim twyll ynddo.” 48Gofynnodd Nathanael iddo, “Sut yr wyt yn f'adnabod i?” Atebodd Iesu ef: “Gwelais di cyn i Philip alw arnat, pan oeddit dan y ffigysbren.” 49“Rabbi,” meddai Nathanael wrtho, “ti yw Mab Duw, ti yw Brenin Israel.” 50Atebodd Iesu ef: “A wyt yn credu oherwydd i mi ddweud wrthyt fy mod wedi dy weld dan y ffigysbren? Cei weld pethau mwy na hyn.” 51Ac meddai wrtho, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cewch weld y nef wedi agor, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y Dyn.”
Loading reference in secondary version...