YouVersion Logo
Search Icon

Esra 1

1
Cyrus yn Gorchymyn i'r Iddewon Ddychwelyd
1Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD a ddaeth trwy Jeremeia, cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Cyrus, a chyhoeddodd ddatganiad trwy ei holl deyrnas ac ysgrifennu: 2“Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia: Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi holl deyrnasoedd y byd i mi, ac wedi gorchymyn i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem yn Jwda. 3Pob un o'ch plith sy'n perthyn i'w bobl, bydded ei Dduw gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i ailadeiladu tŷ ARGLWYDD Dduw Israel, y Duw sydd yn Jerwsalem. 4Pob un a arbedwyd, ple bynnag y mae'n byw, bydded iddo gael cymorth gan ei gymdogion mewn arian ac aur ac offer ac anifeiliaid, yn ogystal ag offrwm gwirfoddol i dŷ Dduw yn Jerwsalem.”
5Yna dechreuodd pennau-teuluoedd Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, pob un a symbylwyd gan Dduw, baratoi i fynd i ailadeiladu tŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. 6Cawsant gefnogaeth eu holl gymdogion gyda llestri arian ac aur, ac offer ac anifeiliaid ac anrhegion gwerthfawr, at y cwbl a roed yn wirfoddol. 7Cyflwynodd y Brenin Cyrus lestri tŷ'r ARGLWYDD a ddygwyd gan Nebuchadnesar o Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduwiau, a rhoddodd hwy i Mithredath y trysorydd; 8rhestrodd yntau hwy ar gyfer Sesbassar, llywodraethwr Jwda. 9A dyma'r rhestr: dysglau aur, tri deg; dysglau arian, mil; thuserau, dau ddeg a naw; 10cawgiau aur, tri deg; cawgiau arian, pedwar cant a deg; llestri eraill, mil. 11Cyfanswm y llestri aur ac arian, pum mil a phedwar cant. A daeth Sesbassar â'r cwbl gydag ef pan ddychwelodd y gaethglud o Fabilon i Jerwsalem.

Currently Selected:

Esra 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy