YouVersion Logo
Search Icon

Rhufeiniaid 2

2
Barn Gyfiawn Duw
1Yn wyneb hyn, yr wyt ti sy'n eistedd mewn barn, pwy bynnag wyt, yn ddiesgus. Oherwydd, wrth farnu rhywun arall, yr wyt yn dy gollfarnu dy hun, gan dy fod ti, sy'n barnu, yn cyflawni'r un troseddau. 2Fe wyddom fod barn Duw ar y sawl sy'n cyflawni'r fath droseddau yn gwbl gywir. 3Ond a wyt ti, yr un sy'n eistedd mewn barn ar y rhai sy'n cyflawni'r fath droseddau, ac yn eu gwneud dy hun, a wyt ti'n tybied y cei di ddianc rhag barn Duw? 4Neu, ai dibris gennyt yw cyfoeth ei diriondeb a'i ymatal a'i amynedd? A fynni di beidio â gweld mai amcan tiriondeb Duw yw dy ddwyn i edifeirwch? 5Wrth ddilyn ystyfnigrwydd dy galon ddiedifar, yr wyt yn casglu i ti dy hunan stôr o ddigofaint yn Nydd digofaint, Dydd datguddio barn gyfiawn Duw. 6Bydd ef yn talu i bawb yn ôl eu gweithredoedd: 7bywyd tragwyddol i'r rhai sy'n dal ati i wneud daioni, gan geisio gogoniant, anrhydedd ac anfarwoldeb; 8ond digofaint a dicter i'r rheini a ysgogir gan gymhellion hunanol i fod yn ufudd, nid i'r gwirionedd, ond i anghyfiawnder. 9Gorthrymder ac ing fydd i bob bod dynol sy'n gwneud drygioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid; 10ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd fydd i bob un sy'n gwneud daioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid. 11Nid oes ffafriaeth gerbron Duw. 12Caiff pawb a bechodd heb y Gyfraith drengi hefyd heb y Gyfraith, a chaiff pawb a bechodd dan y Gyfraith eu barnu trwy'r Gyfraith. 13Nid y rhai sy'n gwrando'r Gyfraith a geir yn gyfiawn gerbron Duw. Na, y rhai sy'n cadw'r Gyfraith a ddyfernir yn gyfiawn ganddo ef. 14Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain. 15Y maent yn dangos bod yr hyn a ofynnir gan y Gyfraith wedi ei ysgrifennu yn eu calonnau, gan fod eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu â'r Gyfraith, ac felly y mae eu meddyliau weithiau'n eu cyhuddo, ac weithiau hefyd yn eu hamddiffyn. 16Yn ôl yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, felly y bydd yn y Dydd pan fydd Duw yn barnu meddyliau cuddiedig pawb trwy Grist Iesu.
Yr Iddewon a'r Gyfraith
17Amdanat ti, fe ddichon dy fod yn cario'r enw “Iddew”, yn pwyso ar y Gyfraith, yn ymffrostio yn Nuw, 18yn gwybod ei ewyllys, ac oherwydd dy hyfforddi yn y Gyfraith yn gallu canfod yr hyn sy'n rhagori. 19Fe ddichon dy fod yn argyhoeddedig dy fod yn arweinydd i'r dall, yn oleuni i'r rhai sydd mewn tywyllwch, 20yn disgyblu'r ffôl, yn dysgu'r ifanc, a hynny am fod gennyt yn y Gyfraith holl gynnwys gwybodaeth a gwirionedd. 21Os felly, ti sy'n dysgu arall, oni'th ddysgi dy hun? A wyt ti, sy'n pregethu yn erbyn lladrata, yn lleidr? 22A wyt ti, sy'n llefaru yn erbyn godinebu, yn odinebus? A wyt ti, sy'n ffieiddio eilunod, yn ysbeilio temlau? 23A wyt ti, sy'n ymffrostio yn y Gyfraith, yn dwyn gwarth ar Dduw trwy dorri ei Gyfraith? 24Fel y mae'r Ysgrythur yn dweud, “O'ch achos chwi, ceblir enw Duw ymhlith y Cenhedloedd.” 25Yn ddiau y mae gwerth i enwaediad, os wyt yn cadw'r Gyfraith. Ond os torri'r Gyfraith yr wyt ti, y mae dy enwaediad wedi mynd yn ddienwaediad. 26Os yw'r sawl nad enwaedwyd arno yn cadw gorchmynion y Gyfraith, oni fydd Duw yn cyfrif ei ddienwaediad yn enwaediad? 27Bydd y dienwaededig ei gorff, os yw'n cyflawni'r Gyfraith, yn farnwr arnat ti, sydd yn droseddwr y Gyfraith er bod gennyt gyfraith ysgrifenedig a'r enwaediad. 28Nid Iddew mo'r Iddew sydd yn y golwg. Nid enwaediad chwaith mo'r enwaediad sydd yn y golwg yn y cnawd. 29Y gwir Iddew yw'r Iddew cuddiedig, a'r gwir enwaediad yw enwaediad y galon, peth ysbrydol, nid llythrennol. Dyma'r un sy'n cael clod, nid gan bobl eraill, ond gan Dduw.

Currently Selected:

Rhufeiniaid 2: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy